Mae ymgyrchydd amlwg wedi dweud fod strategaeth gofal dementia presennol Llywodraeth Cymru yn “gwbl annigonol”.

Dywed y newyddiadurwraig Beti George fod angen trawsnewid gofal yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobol sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn cael chwarae teg.

Bu farw ei chymar, y newyddiadurwr David Parry-Jones, ar ôl cyfnod yn byw â’r cyflwr.

Roedd hi wedi galw am chwyldro yn y maes yn 2017, pan gafodd rhaglen ei darlledu ar S4C yn dilyn ei hanes hi yn gofalu am ei chymar.

Yn ei llyfr Datod, a gafodd ei gyhoeddi gan Y Lolfa yn ddiweddar, roedd Beti George yn edrych ar brofiadau gwahanol bobol yng Nghymru o’r cyflwr.

Mae hi’n dweud na fu “dim newid ers 2017”, pan oedd hi’n galw gyntaf am fwy o gymorth i ofalwyr.

Angen

Mae ymgyrchydd arall sy’n gofalu am ei gŵr ar hyn o bryd, ac a oedd wedi cyfrannu at y llyfr yn ddienw, yn galw am newid hefyd.

“Mae’n hen bryd i’r llywodraeth a’r rhai sy’n gofalu am iechyd a gofal cymdeithasol edrych ar ofal yn y cartref,” meddai’r unigolyn sy’n cael ei hadnabod fel ‘Mrs A’ yn y llyfr.

“Rwyf wedi cael y cwestiwn droeon: ‘Pryd ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ei roi mewn cartref gofal?’

“Dyna’r ateb syml i’r gwasanaethau achos does dim cymorth digonol gan neb i’w gynnig i ni fel teuluoedd sy’n dymuno gofalu am ein hanwyliaid sydd â dementia yn ein cartrefi.

“Mae gwir angen strwythur a chymorth ymarferol arnon ni.

“Rydym yn lleisio ein hanghenion yn glir ond does neb yn gwrando achos dydyn nhw ddim eisiau gwrando.”

Dioddef

Mae Beti George yn gallu uniaethu yn llwyr gyda phrofiad y wraig, ac yn cofio rhwystredigaethau tebyg iawn tra’r oedd hi’n gofalu.

“Os oes gyda chi’r arian, mi allwch gael gofal ddydd a nos yn y cartref, gan gwmnïau preifat,” meddai.

“Ond dim ond pobol gyfoethog iawn, iawn sy’n gallu fforddio hynny. Felly i’r mwyafrif, yr unig opsiwn pan fydd y cyflwr yn gwaethygu yw cartref gofal.

“Ond mi ydych chi eto yn sôn am arian mawr . . . £2,000 yr wythnos.

“Mae’r bobol sydd heb ddim arian tu cefn iddyn nhw yn gallu cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol . . . sydd, wrth reswm, i’w ganmol.

“Ond y rheiny yn y canol sy’n dioddef eto. Y rhai sydd heb ddigon o arian i dalu cwmnïau preifat am gefnogaeth gartref neu dalu costau’r cartrefi gofal, ond gyda gormod i allu cael cefnogaeth gan y wlad – dyna’r rhai sydd bob amser yn cael eu heffeithio.

“Mae’r holl beth wedi ei sgubo dan y mat ar hyn o bryd, a neb yn fodlon trafod.”

Difrifol

Roedd y pandemig yn gyfnod heriol i amryw o bobol, ond yn arbennig i ofalwyr a phobl sy’n byw â dementia, gyda’r gefnogaeth oedd ar gael yn y cartref yn aml yn diflannu dros nos ac ymweliadau â chartrefi gofal yn dod i stop.

“Allwch chi ddychmygu bod yn sefyllfa rhywun gyda dementia mewn cartref gofal ac yn sydyn reit, does neb yn dod i’ch gweld chi,” meddai Beti George.

“Maen nhw ar goll yn barod, a’r unig gyswllt sydd gyda nhw â realiti bywyd mewn gwirionedd ydy eu perthnasau sy’n dod i’w gweld.

“A phan fo hynny yn peidio â bod, mae’n amlwg y bydd yn effeithio arnyn nhw yn ddifrifol.”

Am ddim

“Mae aelodau’r teulu yn llawer mwy nag ‘ymwelwyr’ pan ydych chi yn sôn am ofal dementia.

“Er efallai nad ydy’r rhai sy’n byw gyda dementia yn ymddangos fel eu bod yn adnabod eu perthnasau agosaf, maen nhw yn deall fod yna ryw gysylltiad rhyngddyn nhw.

“Yr hyn sydd ar goll yw’r gallu i gyfathrebu.

“Rwy’n gobeithio y bydd y strategaeth fydd yn weithredol o 2022 yn canolbwyntio ar gyfnod olaf y clefyd ac y gwelwn lai o’r agwedd ‘rhowch ef/hi mewn cartref gofal’ gan gryfhau’r gwasanaethau yn y gymuned.

“Ac yn bwysicach na dim – fel canser a chlefyd y galon – dwi’n gobeithio y bydd y gofal i bobol sy’n byw â dementia yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bawb.”