Mae adroddiadau bod Boris Johnson wedi teithio mewn awyren breifat o uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow i Lundain – taith o 56 munud – er mwyn mynd i ginio gyda chyn-newyddiadurwyr The Telegraph.

Yn ôl y Daily Mirror, cafodd y cinio ei gynnal yn y Garrick Club, clwb i ddynion yn unig.

Mae Anneliese Dodds, cadeirydd y Blaid Lafur, wedi cyhuddo prif weinidog Prydain o “ragrith syfrdanol” ar ôl iddo annog cynadleddwyr COP26 i beidio ag amgylchynu’r blaned mewn carbon deuocsid cyn mynd i ginio gyda Charles Moore, golygydd y papur newydd sy’n sinigaidd pan ddaw i newid hinsawdd.

“Mae’n ymddangos pan ddaw i weithredu i herio’r argyfwng hinsawdd, fod yna un rheol i’r Ceidwadwyr a rheol arall i weddill y byd,” meddai.

Mae llefarydd ar ran Downing Street yn mynnu mai’r bwriad o’r dechrau oedd y byddai Boris Johnson yn gadael Glasgow nos Fawrth (Tachwedd 2).

Cafodd ei hediad ei gadarnhau gan ei lefarydd ddydd Llun (Tachwedd 1), a phan gafodd y daith awyr ei chwestiynu, dywedodd y llefarydd ei bod hi’n bwysig teithio o fewn “cyfyngiadau amser sylweddol” a bod hynny’n golygu nad oedd hi’n ymarferol iddo deithio ar y trên.