Gallai gorsafoedd niwclear newydd gael eu hadeiladu, gan gynnwys Wylfa Newydd, er mwyn lleihau’r angen yn y Deyrnas Unedig am nwy.

Daw hyn yn dilyn ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y safle ar Ynys Môn.

Fe ddaeth cynllun cwmni Horizon i ailddatblygu’r safle i ben yn swyddogol ar ddechrau’r flwyddyn.

Fe fu trafodaethau’n ddiweddar gyda chwmnïau newydd am unrhyw gynlluniau posib i ddatblygu pwerdy niwclear newydd ar safle Wylfa.

Dywedodd Greg Hands, Gweinidog Busnes San Steffan, wrth aelodau seneddol fod prisiau nwy byd-eang yn “gythryblus”, a bod angen lleihau dibyniaeth y wlad arno.

Ond fe wnaeth y gweinidog wynebu rhybuddion ynglŷn â’r “etifeddiaeth wenwynig” y byddai adeiladu gorsafoedd newydd yn ei adael i genedlaethau’r dyfodol, wrth iddo hybu’r Bil (Cyllido) Ynni Niwclear.

Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn anelu i alluogi i gronfeydd pensiwn a buddsoddwyr sefydliadol eraill ddarparu arian ar gyfer y gorsafoedd niwclear.

Bil

Fe fu Greg Hands yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar am y Bil (Cyllido) Ynni Niwclear.

“Mae niwclear yn rhan o system drydan cost isel yn y dyfodol,” meddai.

“Mae niwclear yn helpu i leihau ein hymlyniad i brisiau nwy byd-eang cythryblus.

“Mae’r mesurau yn y Bil hwn yn golygu y gallwn gadw niwclear yn y rhwydwaith am gost is nag a fyddai fel arall.”

Dywed Greg Hands y byddai prosiect a fyddai’n dechrau cael ei adeiladu yn 2023 yn ychwanegu “dim ond swm bach iawn at y bil cartref am danwydd deuol ar gyfartaledd yn ystod y Senedd hon, ar gyfartaledd llai na £1 y mis yn ystod cam adeiladu llawn y prosiect”.

“Bydd y model cyllido newydd hwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ddatblygwyr tramor i ariannu prosiectau niwclear newydd,” meddai.

“Bydd yn cynyddu’r gronfa o ddarpar fuddsoddwyr preifat yn sylweddol i gynnwys cronfeydd pensiwn Prydain, yswirwyr a buddsoddwyr sefydliadol eraill.”

‘Etifeddiaeth wenwynig’

Mae Sarah Olney, llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol, yn annog y Llywodraeth i feddwl am “anfanteision sylweddol gwastraff niwclear”.

Bu’n siarad am ymweliad â’r hen orsaf ynni niwclear yn Sellafield y llynedd.

“Roedd hi’n syfrdanol gweld goblygiadau delio â gwastraff niwclear,” meddai.

“Mae cymaint o ymdrech ac arian sylweddol yn cael ei wario nawr yn cael gwared ar wastraff niwclear a gafodd ei gynhyrchu yn y 1970au, cyn i mi gael fy ngeni.

“Roedd hynny, i fi, yn rhyfeddol ac roedd yn gwneud i chi sylweddoli’r etifeddiaeth wenwynig yr ydyn ni’n ei gadael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol pan fyddwn yn creu gwastraff niwclear.”