Mae oddeutu 61% o bobol dros 80 oed yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 bellach wedi cael dos atgyfnerthu.
Mae’r ffigwr yn gostwng i 57% yn y grŵp oedran 75-79 oed, a 45% ymhlith pobol 70-74 oed.
70% yw’r ffigwr cyfatebol ar gyfer y rhai dros 80 oed yn Lloegr, ac mae’n gostwng i 66% ymhlith y rhai 75-79 oed, a 51% ymhlith pobol 70-74 oed.
Caiff dos atgyfnerthu ei gynnig i bobol o leiaf chwe mis ar ôl eu hail ddos.
Ymhlith y rhai sy’n gymwys ar gyfer y dos atgyfnerthu mae pawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, a’r sawl sy’n byw mewn cartrefi gofal i bobol oedrannus.
Maen nhw hefyd ar gael i bobol rhwng 16 a 49 oed sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol sy’n golygu eu bod nhw mewn perygl o gael eu heintio â Covid-19, ac i bobol sy’n byw â phobol mewn perygl uwch o gael eu heintio.
Mae trydydd dos hefyd yn cael ei gynnig i blant dros 12 oed nad oes modd iddyn nhw adeiladu ymateb llawn i ddau ddos o ganlyniad i gyflwr gwaelodol neu driniaeth feddygol, a dylid cael trydydd dos wyth wythnos ar ôl y dos cyntaf, yn ôl canllawiau swyddogol.