O etholaethau yng Nghymru y daeth yr ymateb mwyaf i arolwg diweddaraf y Comisiwn Ffiniau.

Daeth cyfnod ymgynghori cychwynnol Arolwg 2023 i ben neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 3).

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobol leisio’u barn ar y cynlluniau arfaethedig, a fyddai’n gweld nifer etholaethau Cymru yn Senedd San Steffan yn gostwng o 40 i 32.

Bydd yr Argymhellion Terfynol ar hynny yn cael eu cyhoeddi yn 2023.

Fe wnaeth mwy o bobol nag erioed ymateb i’w harolwg o’r etholaethau eleni, gyda dros 1,100 o ymatebion yn dod i law yn ystod yr ymgynghoriad wyth wythnos.

Roedd hynny’n fwy na dwywaith y nifer a wnaeth ymateb yn ystod y cyfnod cyfatebol yn Arolwg 2018.

Hollti barn

Roedd llawer wedi codi eu llais yn erbyn y gostyngiad i nifer yr etholaethau, ond roedd y Comisiwn yn pwysleisio mai penderfyniad gan y Senedd oedd hynny.

Er hynny, roedd nifer o bobol o blaid y newidiadau, gyda rhai ymatebwyr yn nodi eu bod nhw’n falch o gael symud i etholaeth y maen nhw’n gallu cysylltu mwy â hi.

Bydd yr holl sylwadau a gafodd eu cofnodi yn yr ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diolch

Shereen Williams, Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru, fu’n gofalu am y broses ymgynghori.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bobol Cymru am chwarae rhan mor weithgar yn yr Arolwg hwn,” meddai.

“Pan gyhoeddom ein cynigion cychwynnol, gofynnom i’r cyhoedd gymryd rhan, gan wybod y bydd eu gwybodaeth leol yn amhrisiadwy i’r Comisiwn wrth ddatblygu etholaethau seneddol sy’n adlewyrchu barn yr etholwyr.

“Rwy’n falch iawn fod pobol ledled Cymru wedi ymateb gyda’r fath frwdfrydedd.

“Bydd y Comisiwn nawr yn cymryd amser i ystyried yr ymatebion a gawsom cyn i ni agor ein cyfnod ymgynghori eilaidd a chynnal gwrandawiadau cyhoeddus yn y flwyddyn newydd.”

Bydd ail gyfnod ymgynghori yn agor ym mis Ionawr i roi cyfle i’r cyhoedd gyflwyno gwrthddadleuon neu siarad o blaid sylwadau o’r ymgynghoriad gwreiddiol.

Bydd y cyfnod ymgynghori hwnnw’n agor am chwe wythnos, a bydd pum gwrandawiad cyhoeddus yn cael eu cynnal ledled Cymru.