Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi dymuno Diwali Hapus i bobol Cymru, a’i neges eleni yw “mwynhewch yn ddiogel”.
Gŵyl y goleuni yw Diwali, sy’n cael ei ddathlu gan Hindwiaid ym mhob cwr o’r byd.
Mae’r ŵyl yn un o’r adegau mwyaf poblogaidd i deuluoedd ddod ynghyd er mwyn cyfnewid anrhegion.
Mae pobol yn cynnau lampau olew neu ganhwyllau fel symbol o oleuni’n trechu’r tywyllwch, ac mae tân gwyllt yn chwarae rhan amlwg yn y dathliadau.
“#Diwali hapus i bawb sy’n dathlu gŵyl y goleuadau yng Nghymru a ledled y byd,” meddai’r prif weinidog ar Twitter.
“Hoffwn ddymuno dathliad hapus a diogel i chi i gyd – beth bynnag yw eich cynlluniau, mwynhewch yn ddiogel.”
Dathliadau yn India
Yn India, mae pryderon am effaith y dathliadau ar gyfraddau Covid-19 a llygredd aer cynyddol.
Cafodd Covid-19 gryn effaith ar y dathliadau y llynedd ond eleni, mae pobol wedi bod yn heidio i farchnadoedd i brynu goleuadau, canhwyllau a blodau.
Mae dinas Ayodhya yn nhalaith Uttar Pradesh wedi cadw eu record byd wrth gynnau dros 900,000 o lampau a’u llosgi am 45 munud ar lannau afon Saryu – fe wnaethon nhw gynnau 606,569 o lampau olew y llynedd, sef y nifer fwyaf erioed mewn un lle.
Daeth miloedd o bobol ynghyd ar gyfer y digwyddiad, gan anwybyddu cyfyngiadau Covid-19.
Roedd sioeau laser a thân gwyllt, ac roedd miloedd o bobol wedi cynnau lampau yn eu cartrefi a themlau Hindwaidd.