Mae gweinidogion wedi cael eu cyhuddo o drio “bwlio” y Comisiynydd Safonau o’i swydd.

Daw hyn wedi i’r cyn-Weinidog Ceidwadol Owen Paterson gael ei amddiffyn rhag cael ei wahardd.

Roedd yr Aelod Seneddol dros Ogledd Sir Amwythig yn wynebu cael ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl i bwyllgor safonau trawsbleidiol ganfod ei fod wedi camddefnyddio ei swydd er budd dau gwmni yr oedd yn gweithio iddyn nhw.

Fe bleidleisiodd yr aelodau o 250 i 232, i gymeradwyo gwelliant oedd yn galw am adolygiad o’r achos.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ei gyhuddo o “lygredigaeth” ar ôl iddo orchymyn ei aelodau i beidio â chefnogi galwad y Pwyllgor Safonau i wahardd Owen Paterson.

Roedd rhai hefyd yn ffyrnig fod yr Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng wedi awgrymu y dylai’r comisiynydd safonau Kathryn Stone ymddiswyddo yn sgil ei hymchwiliad i weithredoedd Paterson.

Bydd panel, sy’n cael ei harwain gan y Torïaid, nawr yn ystyried diwygio’r broses ddisgyblu.

Cyfweliad

Cafodd Kwarteng ei holi ar Sky News a ddylai’r Comisiynydd Safonau Kathryn Stone ymddiswyddo.

“Rwy’n credu ei bod hi’n anodd gweld beth yw dyfodol y comisiynydd, o ystyried y ffaith ein bod ni’n adolygu’r broses,” meddai.

“Rydyn ni’n gwyrdroi a cheisio diwygio’r broses gyfan hon, ond mater i’r comisiynydd yw penderfynu ar ei safbwynt.”

Gofynnodd y gohebydd iddo ymhelaethu ar yr hyn roedd yn ei olygu wrth ddweud “penderfynu ar ei safbwynt.”

“Ei phenderfyniad hi yw ymddiswyddo,” meddai Kwasi Kwarteng.

“Hynny yw, mae’n fater i unrhyw un sydd wedi gwneud dyfarniad y mae pobol yn anghytuno ag o, i ystyried eu safbwynt.

“Mae hynny’n beth naturiol, ond dydw i ddim yn dweud y dylai hi ymddiswyddo.”

‘Llygredig’

Mae Thangam Debbonaire o’r wrthblaid yn galw ar Boris Johnson i “ymbellhau ei hun oddi wrth yr ymdrechion diweddaraf i wenwyno gwleidyddiaeth Prydain”.

“Ar ôl rhwygo’r rheolau sy’n plismona ymddygiad aelodau seneddol i amddiffyn un eu hunain, mae’n warthus fod y Llywodraeth lygredig hon bellach yn ceisio bwlio’r comisiynydd safonau allan o’i swydd,” meddai’r aelod seneddol Llafur.

 

Owen Paterson: Pleidlais i beidio ei wahardd am dorri rheolau lobïo honedig

Yn lle hynny, Senedd San Steffan yn pleidleisio o blaid diwygio system safonau Tŷ’r Cyffredin