Mae gwledydd sy’n cymryd rhan yn uwchgynhadledd COP26 wedi bod yn amlinellu eu cynlluniau i ddod â’r defnydd o lo i ben ar ôl 250 o flynyddoedd, ond mae pryderon nad yw’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am lygru yn rhan o’r cynlluniau.
Daw’r trafodaethau yn Glasgow wrth i wyddonwyr rybuddio bod disgwyl i allyriadau carbon ddychwelyd i’r lefelau cyn-Covid ac y gallen nhw godi ymhellach y flwyddyn nesaf.
Mae’r mentrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Tachwedd 4) yn cynnwys datganiad sy’n ymrwymo gwledydd i ddod â’u buddsoddiad mewn cynhyrchu gan ddefnyddio glo i ben yn eu gwledydd eu hunain a thramor a throi at ynni mwy glân.
Bydd y gwledydd hefyd yn dirwyn eu defnydd o lo i ben yn raddol yn y 2030au a’r 2040au mewn ffordd sy’n deg i weithwyr a chymunedau.
Mae mwy na 40 o wledydd wedi ymrwymo i hyn, gan gynnwys 18 o wledydd sy’n addo peidio adeiladu ar sail glo am y tro cyntaf.
Mae 28 o wledydd newydd hefyd wedi ymrwymo i gynghrair i ddod â’r defnydd o lo i ben.
Ond dydy Tsieina, yr Unol Daleithiau, India nac Awstralia ddim wedi gwneud unrhyw fath o ymrwymiad, a hwythau ymhlith y gwledydd lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.
‘Bylchau amlwg’
“Mae unrhyw gynnydd tuag at bweru heibio glo i’w groesawu, ond mae bylchau amlwg o hyd,” meddai Ed Miliband, llefarydd busnes y Blaid Lafur yn San Steffan.
“Does dim ymrwymiad gan allyrwyr mawr fel Tsieina i roi terfyn ar gynyddu glo gartref, a dim byd ar ddirwyn tanwydd ffosil eraill i ben,” meddai.
Er gwaethaf absenoldeb Tsieina a’r Unol Daleithiau, mae’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng yn mynnu bod cynnydd yn cael ei wneud.
“Mae’r Unol Daleithiau o dan yr Arlywydd Biden yn sicr y tu ôl i’r agenda sero-net, ac mae ganddyn nhw lawer o addewidion i leihau nwy naturiol, i leihau methan.”
Dywed fod Tsieina hefyd wedi ymrwymo i beidio â buddsoddi mewn glofeydd tramor ac i ddod â’u defnydd o lo i ben wrth gynhyrchu trydan.
Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i fod yn sero-net erbyn 2060, meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n “drueni” nad ydyn nhw wedi gwneud addewid ffurfiol.
Pwysigrwydd dirwyn y defnydd o lo i ben
Mae dod â’r defnydd o lo i ben yn cael ei ystyried yn allweddol i leihau allyriadau carbon gan mai glo yw’r prif gyfrannwr at allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae yna ymrwymiad eisoes i gyfyngu cynhesu byd eang i 1.5 gradd selsiws.
Ers yr ymrwymiad yng Nghytundeb Paris yn 2015, fe fu gostyngiad o 76% yn nifer y safleoedd glo newydd arfaethedig, ac mae 1,000 gigawat o safleoedd glo newydd wedi’u canslo.
Ond mae’r defnydd yn cynyddu mewn gwledydd fel Tsieina ac mae gwyrdroi’r duedd honno’n cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn bwrw targedau erbyn 2050.