Mae’r RSPCA wedi croesawu cynlluniau sydd newydd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau lles anifeiliaid.
Dywed yr elusen fod yr amseru’n hanfodol yn dilyn “straen difrifol” ar y sector yn deillio o’r pandemig.
Mae’r Cynllun Lles Anifeiliaid yn cynnig ymrwymiadau ar reoleiddio triniaeth anifeiliaid, yn enwedig anifeiliaid anwes a da byw.
Mae’r Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiadau gan gynnwys creu model cenedlaethol ar reoleiddio lles anifeiliaid.
Byddan nhw hefyd yn gorfodi pob lladd-dy i gael camerâu cylch-cyfyng, a gwahardd y defnydd o gewyll i anifeiliaid fferm.
Fe gafodd pwerau lles anifeiliaid eu datganoli i Fae Caerdydd yn ôl yn 2006.
Cyhoeddiad
I nodi’r cyhoeddiad, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, yn ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow ger Cwmbrân.
“Rwy’n falch iawn o’r hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yng Nghymru o ran lles anifeiliaid, ond mae mwy i’w wneud,” meddai.
“Ein huchelgais hirdymor yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da.
“Mae’r cynllun heddiw yn amlinellu camau tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.
“Mae sicrhau bywyd o ansawdd da i bob anifail yn uchelgeisiol, ond dyna y mae’n rhaid i ni anelu tuag ato.”
Croesawu
Mae David Bowles, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr RSPCA, wedi cefnogi’r cynlluniau gan Lywodraeth Cymru.
“Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynllun Lles Anifeiliaid pwrpasol,” meddai,
“Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i wneud Cymru yn lle gwell i anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt fyw ynddo.
“Mae angen ers amser i’r fframwaith rheoleiddio i’r sector lles anifeiliaid fynd ymhellach.”
Mwy o gynlluniau
Mae David Bowles yn dweud bod angen i’r cynlluniau gael eu hymestyn yn y dyfodol.
“Er bod llawer i’w groesawu yn y Cynllun hwn, rydym yn gobeithio y bydd y pum mlynedd nesaf yn dod â mwy fyth o welliannau i anifeiliaid a’u lles,” meddai.
“Mae lles anifeiliaid ar bwynt tyngedfennol – gyda bargeinion masnach yn cael eu trafod, taliadau fferm ôl-Brexit yn cael eu hystyried, a’r pandemig Covid-19 yn rhoi straen difrifol ar ein sector.
“Wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig symud ymlaen gyda’i Mesur Dedfrydrwydd Anifeiliaid (Animals Sentience Bill), bydd cwestiynau mawr yng Nghymru hefyd ynglŷn â sut y byddwn yn craffu ar yr holl bolisi datganoledig a’i effaith ar gaethiwed anifeiliaid yn y dyfodol.”