Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan yn dweud ei fod yn barod i drosglwyddo pwerau tros dwnnel yn y Rhondda i ddwylo awdurdod yng Nghymru.

Y gobaith, meddai’r aelod seneddol Llafur Chris Bryant, yw troi’r twnnel yn llwybr seiclo hiraf Ewrop.

Ar hyn o bryd, mae’r pwerau tros y twnnel yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond mae Grant Shapps yn dweud y byddai’n “hapus iawn” i drosglwyddo’r pwerau i awdurdod yng Nghymru – naill i grŵp lleol, i Lywodraeth Cymru neu i’r cyngor lleol.

Highways England

Cafodd y mater ei godi gan Chris Bryant yn San Steffan, wrth iddo egluro bod y cyfrifoldeb ar hyn o bryd yn nwylo Highways England.

Mae’r twnnel yn 3,443 llathen.

“Fe fydd yn atyniad mawr yn lleol,” meddai Chris Bryant.

“Dw i’n credu y byddai’n dda ar gyfer twristiaeth, byddai’n dda ar gyfer swyddi.”

Ymateb Grant Shapps

“Mae’n troi allan mai National Highways, fel y mae’n gywir iawn i’w ddweud, sy’n berchen hyn ar hyn o bryd,” meddai Grant Shapps.

“Ond yn hapus iawn i drosglwyddo hynny i grŵp lleol, i Lywodraeth Cymru, i’r cyngor lleol, gydag arian… at ddiben, ac mae croeso iddo fynd i’r afael â hynny.”