Bydd dadl yn cael ei chynnal yn Senedd Cymru yn ddiweddarach wedi i ddeiseb alw am fwy o gefnogaeth i bobl sy’n galaru yng Nghymru.
Does dim cefnogaeth swyddogol yng Nghymru ar hyn o bryd ond dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi lansio fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth.
Yn rhan o hynny mae cronfa werth £1m gyda’r nod o gefnogi pobl trwy effeithiau emosiynol, corfforol a meddyliol gan sicrhau’r “gofal disgwyliedig” y dylai rhywun ei dderbyn wrth alaru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae colli plentyn yn ddinistriol ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar deuluoedd.”
Deiseb
Daw hyn wedi i elusen 2Wish gyhoeddi deiseb ddwy flynedd yn ôl sydd wedi cyrraedd mwy na 5,000 o enwau.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth ar unwaith i deuluoedd plant 25 oed ac iau sy’n marw’n sydyn.
Ar hyn o bryd nid oes cymorth profedigaeth swyddogol i’r teuluoedd hyn yng Nghymru.
Ariennir ei gefnogaeth gan roddion gan y cyhoedd ac nid yw 2wish yn cael unrhyw gyllid gan y sector cyhoeddus, er ei fod yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol.
Mae dros 960 o deuluoedd wedi derbyn cymorth gan yr elusen ers 2015.
Galar
Cafodd elusen 2wish ei sefydlu gan Rhian Mannings yn 2012 ar ôl iddi hi a’i gŵr Paul golli eu mab bach George.
Yn ôl y ddau bu’n brofiad torcalonnus a dryslyd heb unrhyw gefnogaeth. Bum niwrnod yn ddiweddarach, cymerodd Paul ei fywyd ei hun.
Esboniodd Rhian pa mor bwysig yw cefnogaeth uniongyrchol i deuluoedd: “Pan gollon ni George, fe gerddon ni allan o’r ysbyty heb ddim byd, ar ein pen ein hunain ac yn ofnus.
“Ni ddaeth neb, ni ddaeth neb allan i’n cefnogi, ar wahân i deulu a ffrindiau a oedd yn galaru eu hunain.
“Bum niwrnod ar ôl i ni golli ein mab, cymerodd fy ngŵr Paul ei fywyd ei hun. Roedd fy nau blentyn arall a minnau unwaith eto wedi’n gadael yn dorcalonnus – unwaith eto, ni ddaeth neb. Rwy’n benderfynol na fydd hyn byth yn digwydd eto i deulu yng Nghymru.”
Fframwaith
Mae’r fframwaith newydd yn gobeithio datblygu ar waith da elusennau sydd eisoes wedi ei gyflawni.
Yn ogystal â’r grant gwerth £1m, fe fydd yna £420,000 ychwanegol ar gyfer byrddau iechyd i’w cefnogi i greu set newydd o safonau profedigaeth.
Byddan nhw nawr yn cydweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith.