Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ategu galwad am system rybuddio ar gyfer tomenni glo yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi data newydd yn ddiweddar yn dadansoddi’r holl domenni glo yng Nghymru.

O’r 2,456 tomen lo sydd yng Nghymru, roedd 327 ohonyn nhw mewn categorïau risg uchel.

Dydy hynny ddim yn golygu bod bygythiad difrifol i fywydau yn y cyffiniau, ond mae angen iddyn nhw gael eu harchwilio’n amlach oherwydd y risg uwch.

Ond mae un arbenigwr yn dweud ei bod hi’n hanfodol cael system rybuddio i synhwyro tirlithriadau yn y tomenni, fel bod modd ymateb yn gynnar i unrhyw beryglon.

System rybuddio

Mae’r Athro Karen Hudson-Edwards, sy’n ymgynghorydd ar gyfer adolygiad Comisiwn y Gyfraith i domenni glo, yn dweud y dylai mesurau ychwanegol gael eu cyflwyno i leihau risgiau.

“Gallwn ni fapio lleoliadau defnyddiau tir gwahanol, fel adeiladau a thai, ysgolion a thir amaethyddol,” meddai wrth raglen BBC Wales Live.

“Gallwn gysylltu hynny â lle mae’r tomenni glo a gweithio allan lle fyddai unrhyw rwbel yn disgyn pe bai tirlithriad.

“Yn y diwydiant mwyngloddio, rydyn ni wedi siarad am gael systemau rhybuddio ar gyfer trefi.

“Yn bendant, fe allech chi gael system sy’n defnyddio ap ffôn neu hyd yn oed ffôn arferol, a phan mae symudiad yn cael ei synhwyro mewn tomen, fe allech chi gael cynlluniau gwacau ar waith.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Mae Janet Finch Saunders AS, llefarydd yr wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi ategu’r alwad honno gan yr Athro Hudson-Edwards.

“Dylai gweinidogion Llafur gymryd sylw o’r galwadau am system rybuddio tomenni glo,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld gwybodaeth gan y Llywodraeth am y 327 tomen lo risg uwch, ond nid ydyn nhw wedi datgelu’r lleoliadau penodol.

“Mae’n hen bryd i sicrhau fod pobol ledled Cymru yn cael tawelwch meddwl a diogelwch.

“Byddai cyflwyno systemau rhybuddio a mapiau diogelwch, sy’n hysbysu pobol leol am gynlluniau brys, dynodiad risg pob tomen lo, cynllunio gofodol ac ymwybyddiaeth gyhoeddus, yn mynd yn bell wrth sicrhau’r diogelwch hwnnw.

“Yn anffodus, y cyfan yr ydyn ni wedi ei weld cyn belled ydy gweinidogion Llafur yn beio eraill.

“Maen nhw wedi cael digon o gyfleoedd i rybuddio ac amddiffyn pobol a chymunedau gan wneud y tomenni hyn yn saff, ond fel arfer, maen nhw wedi penderfynu peidio gweithredu, ac yn lle maen nhw wedi dewis dargyfeirio’r cyfrifoldeb.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.

Galw am fwy o arian i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru

Data yn dangos fod 327 tomen lo mewn categori risg uwch, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw gael eu harchwilio’n fwy aml