Mae pris cyfartalog am dŷ yn y Deyrnas Unedig wedi pasio £250,000 am y tro cyntaf erioed.

Y pris cyfartalog ym mis Hydref eleni oedd £250,311, a oedd yn gynnydd o 9.9% ar y flwyddyn flaenorol, yn ôl Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide.

Mae hefyd yn gynnydd o £30,728 ers i’r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020.

Galw uchel

Dywedodd uwch economegydd Nationwide, Robert Gardner, fod y galw am dai wedi parhau’n uchel, er i’r toriad ar dreth stamp ddod i ben ym mis Medi.

“Fe arhosodd nifer y ceisiadau morgais yn gadarn ar 72,645 ym mis Medi, fwy na 10% yn uwch na’r cyfartaledd misol a gafodd ei gofnodi yn 2019,” meddai.

“O gyfuno hynny â diffyg cartrefi ar y farchnad, mae hyn yn helpu i egluro pam mae twf prisiau wedi aros yn gadarn.

“Mae’r rhagolygon yn parhau i fod yn hynod ansicr. Os yw’r farchnad lafur yn parhau i fod yn wydn, gall amodau aros yn weddol fywiog yn ystod y misoedd nesaf.

“Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau yn awgrymu y gallai gweithgaredd y farchnad arafu.

“Mae’n parhau i fod yn aneglur sut y bydd yr economi ehangach yn ymateb wrth i fesurau cymorth y Llywodraeth gael eu tynnu yn ôl.

“Hefyd, mae hyder prynwyr wedi gwanhau yn ystod y misoedd diwethaf, yn rhannol o ganlyniad i gynnydd sydyn yng nghostau byw.”