Mae portread o’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton wedi ei dynnu lawr o arddangosfa yn Amgueddfa Cymru er mwyn cael ei ail-ddehongli a’i arddangos eto dros y misoedd nesaf.
Roedd y portread gan yr artist Syr Martin Archer Shee wedi cael ei arddangos yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd ers 1907.
Cafodd Picton ei ystyried yn arwr am flynyddoedd, ond mae hefyd yn adnabyddus am ei driniaeth greulon o bobl ddu – yn gaethweision a phobl rydd – ac am ganiatáu arteithio yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, o 1797-1803.
Yn 2020, fe wnaeth cynghorwyr Caerdydd bleidleisio o blaid tynnu cerflun ohono o Neuadd y Ddinas.
“Arwr heddiw”
Bydd portread arall, o’r enw ‘William Lloyd: Gwrychwr a Thorrwr Ffosydd’ yn cymryd lle portread Picton. Cafodd hwn ei baentio gan yr artist o’r Iseldiroedd, Albert Houthuesen, gafodd ei swyno gan fywydau’r glowyr yn Nhrelogan, Sir y Fflint tra’r oedd ar ei wyliau gyda’i wraig yn y 1930au.
Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru: “Mae hwn yn gam pwysig arall i Amgueddfa Cymru wrth i ni archwilio ein casgliadau cenedlaethol ac ystyried pwy ydyn ni’n eu harddangos yn oriel Wynebau Cymru, a pham. Mae’r project hwn yn tynnu un gwaith i lawr – portread sy’n mawrygu unigolyn a gyflawnodd greulondeb mawr fel Llywodraethwr Trinidad, hyd yn oed yn ôl safonau ei oes – ac yn ei le yn gosod portread sy’n dathlu gweithiwr, rhywun y gallwn ei ystyried fel arwr heddiw.
“Yn y dyfodol, bydd Amgueddfa Cymru yn creu adnoddau addysg ar hanes cymunedau sy’n profi anghydraddoldeb hiliol, a’r hyn maent wedi’i gyflawni o fewn ein cymdeithas. Bydd hyn yn cyd-fynd â newidiadau diweddar Llywodraeth Cymru i’r cwricwlwm.”
Comisiwn
Mae Amgueddfa Cymru wedi comisiynu dau artist sydd am ail-ddehongli portread Thomas Picton, er mwyn dweud stori’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan ei weithredoedd.
Bydd y comisiynau newydd yn dod yn rhan o gasgliad cenedlaethol yr amgueddfa.
Yr artistiaid sydd wedi eu comisiynu yn rhan o’r prosiect ehangach, Ail-fframio Picton, yw Gesiye, a’r grŵp ar y cyd, Laku Neg.
Mae Gesiye yn artist amlddisgyblaeth o Trinidad a Tobago, ac mae pedwar aelod Laku Neg hefyd o dras Trinidadaidd, ond yn gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Byddan nhw’n archwilio themâu sy’n cynnwys achau, iachâd, trawsnewid a grymuso, gan herio’r naratif trefedigaethol sydd wedi bodoli yn draddodiadol yn orielau Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd.
Maen nhw am fanylu ar bobol hanesyddol a chyfredol o Drinidad, yn cynnwys ffigyrau a gafodd eu harteithio gan Picton.
‘Nid ymgais i ail-ysgrifennu hanes’
“Mae ein cysylltiad â’r gofodau rydyn ni’n cael ein geni iddyn nhw yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chyfrifoldeb i’r tir hwnnw i ni,” meddai Gesiye.
“Pan fydd trawma yn effeithio ar y cysylltiad hwnnw, fel trawma caethwasiaeth a gwladychiaeth, rydym yn datblygu patrymau ymddygiad mewn perthynas â’r tir sydd wedyn yn cael ei basio i lawr trwy genedlaethau.
“Rwy’n rhagweld y darn hwn fel defod, cyfle iachâd i Trinidadiaid Du ail-gysylltu â nhw eu hunain, i’r ynys hon ac i’w gilydd.
“Nid ymgais i ail-ysgrifennu hanes yw’r gwaith hwn, mae’n tarfu ar y naratif sydd mor aml yn cael ei ddal i fyny fel gwirionedd unigol.”
‘Sbarduno sgyrsiau’
“Rydyn ni’n croesawu cyfrifoldeb enfawr y project hwn, wrth i ni gydweithio ag Amgueddfa Cymru i gynnig darlun llawn i’r cyhoedd o hanes Cymru,” meddai grŵp Laku Neg.
“Mae hwn hefyd yn waith cyndeidiol i ni. Rydyn ni’n cydnabod sut deimlad yw dod o ynysoedd y Byd Newydd ac yn anrhydeddu’r rhai a ddaeth o’n blaen – yn enwedig ein cynfamau.”
Eu bwriad yw creu gwaith “sy’n taflu goleuni ar stori na wnaeth groesi’r Iwerydd”.
“Wrth ail-gyflwyno’r Caribî a’i gysylltiadau trefedigaethol, gobeithiwn sbarduno sgyrsiau treiddgar am bŵer, arwriaeth a gwirionedd.”