Er mwyn dathlu 250 mlynedd ers genedigaeth y diwygiwr cymdeithasol Robert Owen, cafodd pobol ifanc y canolbarth eu gwahodd i ymuno â sesiynau er mwyn creu cerflun fyddai’n ei adlewyrchu.
Fe wnaeth 19 o bobol ifanc rhwng 11 a 18 oed gymryd rhan yn sesiynau Sculpteen Celf Canolbarth Cymru dros yr haf.
Gyda chymorth aelodau Celf Canolbarth Cymru, Cerflunio Cymru ac Amgueddfa Roberts Owen, cafodd y bobol ifanc eu cyflwyno i amrywiaeth o gerfluniau, deunyddiau a thechnegau.
Mae Celf Canolbarth Cymru wedi dewis wyth darn terfynol, ac maen nhw’n gofyn i’r cyhoedd ddathlu llwyddiannau’r bobol ifanc drwy bleidleisio dros y darn yr hoffen nhw ei weld yn cael ei wneud yn fwy o faint.
Robert Owen
Yn ystod y sesiynau, dysgodd y bobol ifanc sut i fynd i’r afael â chreu cerfluniau, a rhoddodd Amgueddfa Robert Owen sgwrs iddyn nhw am Robert Owen a’i etifeddiaeth, sut y gwnaeth e ddylanwadu ar gymdeithas, sut ddyn oedd e, pa faterion y byddai eisiau eu newid nawr, a sut y gallwn ni ddehongli ei syniadau er mwyn gwella’r byd heddiw.
Cafodd Robert Owen ei eni yn y Drenewydd yn 1771, ac yn ogystal â bod yn berchen ar felinau nyddu gwlân yn yr Alban, sefydlodd e ysgol i blant y gweithwyr.
Bu’n ffigwr poblogaidd yn y mudiad undebaeth lafur yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd yn credu ym mhwysigrwydd sicrhau amgylchedd ac amgylchiadau da i’w weithwyr.
Cafodd y geiriau arloeswr, tad, athronydd, dyngarwr, idealydd, iwtopydd, entrepreneur, cryf, hael, dewr, breuddwydiwr, gweledigaethol, blaengar, anhunanol, dygn, cynllunydd, a phwrpasol eu defnyddio i’w ddisgrifio, ac roedd y gwaith yn adlewyrchu’r geiriau hyn.
Bydd modd gweld y cerfluniau o ddydd Iau (Tachwedd 4) yng Nghanolfan Celf Canolbarth Cymru yng Nghaersws. Bydd y bocs pleidleisio yn agor am 11yb.