Bro Aber yw emyn mwyaf poblogaidd Cymru, yn ôl canlyniadau pleidlais gwylwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Cafodd hoff emyn Cymru ei ddatgelu gan Huw Edwards yn ystod rhifyn arbennig o’r rhaglen neithiwr (nos Sul, Hydref 31) yn dilyn pleidlais Emyn i Gymru 21.

Pleidleisiodd dros 1,100 o bobol wedi i’r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol lansio pôl piniwn yn yr haf.

Cafodd yr emynau a gyrhaeddodd y deg uchaf eu perfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Owain Arwel Hughes a chôr o 60 o bobol o bob cwr o Gymru.

Roedd y rhaglen yn rhan o’r dathliadau i nodi pen-blwydd y gyfres yn 60 oed eleni.

‘Emyn pwerus’

Dywedodd Huw Edwards, cyflwynydd y rhaglen, ei bod hi’n “dda gweld bod emyn cymharol fodern wedi dod i’r brig”.

“Mae gan bawb eu hoff Emyn, a thasg amhosib a dweud y gwir yw dewis gan ein bod ni’r Cymry yn gallu rhestru cynifer o emynau a fyddai’n haeddu bod yn fuddugol,” meddai.

“Dyma emyn cynulleidfaol, un o rai gorau ail hanner yr ugeinfed ganrif,” meddai Delyth Morgans Phillips, sy’n arbenigo ar emynau.

“Gwaith comisiwn oedd hi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983 ar gyfer cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn Dôn.

“Mae’n emyn pwerus, sy’n ein dyrchafu ni ac mae’r dôn a’r geiriau yn cyd-fynd yn berffaith.”

Y deg emyn mwyaf poblogaidd

  1. Bro Aber
  2. In Memoriam
  3. Gwahoddiad
  4. Rhys
  5. Arwelfa
  6. Tydi a roddaist
  7. Ellers
  8. Coedmor
  9. Dim ond Iesu a Sirioldeb
  10. Bryn Myrddin

Oherwydd bod dau emyn wedi dod yn gydradd nawfed, cafodd y ddau eu perfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r côr.

Yn ystod y rhaglen, cafodd cystadleuaeth newydd ei chyhoeddi i gyfansoddi geiriau emyn gyda gwobr o £200 hefyd.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Gŵyl Dewi Dechrau Canu Dechrau Canmol pan fydd cystadleuaeth i gyfansoddi emyn dôn i’r geiriau’n cael ei lansio.