Bydd Carys Eleri, y berfformwraig, actores a chantores o’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, yn olrhain hanes a thraddodiadau Calan Gaeaf yng Nghymru mewn rhaglen arbennig ar S4C heno (nos Sul, Hydref 31, 8 o’r gloch).

Bydd hi’n mynd ar daith o amgylch y wlad yn darganfod mwy am ein “holl draddodiadau ffabiwlys” ac yn chwilio am ffyrdd gwahanol o nodi’r achlysur.

Yn ogystal ag ymweld â “Mr Calan Gaeaf ei hun”, y derwydd Neo-Paganaidd Kristoffer Hughes yn Ynys Môn, bydd hi’n twrio trwy archifau Prifysgol Cymru Caerdydd, yn ymweld â phentref oes haearn Castell Henllys ger Crymych, yn edmygu’r tirwedd wrth ddysgu am chwedloniaeth ardal Parc Eryri, ac yn dysgu am gysylltiad Cymru â’r cytserau ym Mhorth Trecastell.

Bydd hi’n manteisio ar y cyfle i gofleidio gwir naws yr ŵyl trwy gymryd rhan mewn defodau ysbrydol, darganfod cysylltiadau gyda’r Mabinogi, creu swyni a dawnsio mewn cylch gydag ysgub.

‘Rhyfeddod naturiol y ddaear’

“Fi wastad wedi dwlu ar ŵyl Calan Gaeaf achos mae’n ddathliad sy’n nodi rhyfeddod naturiol y ddaear, dechrau go iawn y gaeaf,” meddai Carys Eleri.

“Ni’n gwybod sut mae gwledydd eraill ar draws y byd yn dathlu – mae Calan Gaeaf yn enfawr yn America, gyda gorymdeithiau godidog yn Efrog Newydd.

“Mae Mecsico yn enwog am ddathlu y Day of the Dead.

“Ond beth yw’n hanes ni yma yng Nghymru?

“Mae cymaint ohonom ni wedi anghofio fod Calan Gaeaf yn gymaint mwy na gwisgo fyny a cherfio pwmpenni flat out.

“Fi’n cwrdd â phobol sy’n angerddol am hen arferion Calan Gaeaf yn ogystal â’r genhedlaeth newydd o swyngyfareddion – pobol sy’n diddori mewn creu swyni.”

Straeon unigryw i Gymru

“Mae mor bwysig dal i adrodd y straeon hyn sy’n unigryw i ni fel Cymry, cyn ini eu colli nhw am byth,” meddai Carys Eleri wedyn.

“Blynyddoedd yn ôl, dyma fyddai amser cynhaeaf a dathlu’r holl waith trwy’r flwyddyn. Mae’n nodi cylch bywyd yn dod i ddiwedd, pethau’n marw, yna ail-ddechrau.

“A dyna ble mae’r cysylltiad gyda’r meirw wedi dod – rhywbeth sy’n syniad brawychus erbyn hyn.

“Mae’n naturiol ein bod ni’n cofio am bobol sydd ddim hefo ni rhagor, fel mae Mecsico yn dathlu a chofio am eu cyndeidiau.

“Ro’n i’n meddwl fod bownd o fod rhywbeth fel yna yn perthyn i ni ar ryw bwynt. Ac mi roedd!

“Dewch ‘da fi i ddathlu Calan Gaeaf yng Nghymru – os chi ddigon dewr!”