Mae Sywel Nyw wedi rhyddhau ei ddegfed sengl – Seagal – sy’n dathlu Steven Seagal ac ystrydebau’r 80au.

Lewys Wyn o’r band Eira ac Iolo Selyf o’r band Y Ffug sydd wedi cydweithio i greu’r gân, sy’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth pync, indi ac electronig.

Yn ystod pob mis o 2021, mae Lewys wedi rhyddhau sengl newydd o dan yr enw Sywel Nyw, gan gydweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.

Hyd yma, mae wedi rhyddhau caneuon gydag artistiaid megis Mark Roberts o Y Cyrff a Catatonia, Gwenllian o’r band Adwaith ac Endaf Emlyn.

“Adlewyrchu diwylliannau gwahanol”

“Y bwriad oedd mod i’n gweithio efo artistiaid ychydig bach yn wahanol i’r arfer oherwydd yn amlwg mae yna lot o fandiau ac artistiaid yn gwneud y cydweithio a’r features ‘ma – gen ti Band Pres Llareggub sy’n dueddol o fynd ar ôl dy classics fatha Rhys Gwynfor a Mared,” meddai Lewys wrth golwg360.

“Felly do’n i ddim isio mynd lawr y route yna, ro’n i isio gweithio efo artistiaid o bosib ychydig yn fwy amgen ac ella sydd ddim yn mainstream mewn ffordd.

“Dyna oedd y pwynt cyntaf o’n i isio mynd ar ei ôl.

“Ro’n i hefyd isio gweithio gydag artistiaid o bob man yng Nghymru, felly ro’n i isio gwneud yn siŵr mod i er enghraifft ddim jyst yn gweithio efo artistiaid o’r Gogledd, neu jyst rhai o Gaerdydd.

“Felly ro’n i isio adlewyrchu diwylliannau gwahanol o fewn Cymru ac acenion gwahanol fel bo’ ni ddim yn cael yr un straeon a’r un input ar Gymreictod yn y caneuon ‘ma.”

Steven Seagal

Mae’r gân newydd – ‘Seagal’ yn cymryd ysbrydoliaeth gan yr actor Steven Seagal, ond o le ddaeth y syniad am hynny?

“Mae hynna yn hollol disgyn ar Iolo ei hun,” eglura Lewys.

“I fod yn onest, ro’n i’n ymwybodol o’r enw Steven Seagal ond do’n i erioed wedi gwylio ei ffilms o na’m byd fel yna.

“Ond yn ôl Iolo, mi oedd o’n byw efo rhyw foi oedd yn rili atgoffa fo o Steven Seagal ac roedd o’n gweld o’n foi eithaf cringy, ychydig yn wahanol a very 80s.

“Felly o fan yna ddaeth y syniad ac yn digwydd bod roedd o wedi bod yn gwylio lot o ffilms Steven Seagal dros y lockdown ei hun.

“Felly roedd y syniad Steven Seagal ‘ma jyst wedi plannu yn y frên o fwy na thebyg dros lockdown.

“Wedyn ma’r gân hefyd yn sôn a ‘chydig o cliché’s yr 80s ac mae o’n cyfeirio hefyd at yn ôl adra iddo fo, er enghraifft un o’r lyrics ydi: ‘Boddi mewn seilaj’, dw i’n meddwl bod hynna yn cyfeirio at ei adra fo yn Nwyrain Cymru lle yn enwedig yn yr 80au roedd gen ti fwy o bobol na’r arfer actually yn marw drwy foddi mewn seilaj.

“Felly dw i’n meddwl i fod o wedi trio cyfuno rhyw fath o elfen fwy Americanaidd efo rhywbeth mwy lleol.”

‘Gwneud rhywbeth gwahanol’

Yn fideo’r gân rydym yn gweld Lewys ac Iolo mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol sydd wedi’u hysbrydoli gan ffilmiau Steven Seagal.

Bu’r ddau yn cydweithio â’r gwneuthwyr fideos Cybi a Billy Bagilhole i greu’r fideo.

“Ro’n i’n adnabod Cybi oherwydd ei fod o wedi gwneud y clawr ar gyfer albym diwethaf Yr Eira ac wedi gweld be’ roedd Billy wedi ei wneud hefo’r band Papur Wal.

“Felly’r syniad yn wreiddiol oedd gweithio efo nhw achos ro’n i’n gwybod ei bod nhw’n gwneud stwff rili cŵl a ro’n i’n gwybod y bysa nhw’n take charge efo’r fideo a gwneud rhywbeth rili gwahanol.

“Nes i wneud o’n agored iddyn nhw fynd ar ôl beth oedden nhw isio rili a digwydd bod roedden nhw hefyd wedi bod yn gwylio ffilms Steven Seagal dros lockdown, felly roedden nhw yn y mind frame i wneud y fideo mewn ffordd.

“Y syniad gafon nhw oedd ail wneud ffilms Steven Seagal o’r 80au ond mewn settings gwahanol.

“Felly mae gen ti ddarn sy’n Miami-esque, ma gen ti ddarn Western ac wedyn yr un arall ydi fel cartoon vibes.

“Dw i ac Iolo wedyn yn y fideo a be roedden ni’n ei wneud oedd cymryd tyrnau yn actio’r boi drwg a’r boi da.

“Roedd yna lwyth o footage wnaeth ddim ei gwneud hi, roedd o mor whacky a random.”

Albym yn y flwyddyn newydd

Bydd Lewys yn rhyddhau albym fydd yn cynnwys yr holl ganeuon y mae wedi rhyddhau fel Sywel Nyw dros y flwyddyn diwethaf ar 21 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Erbyn hynny, bydd wedi rhyddhau 12 cân gyda 12 artist gwahanol ac enw’r albym fydd ‘Deuddeg’.

I glywed y diweddara’ gan Sywel Nyw, ewch i lwcust.com/sywelnyw

Ac mae modd clywed y gân newydd a gwylio’r fideo fan hyn.