Cynhyrchydd y rhaglen Ffermio ar S4C yw cadeirydd newydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

Mae Dyfrig Davies yn reolwr gyfarwyddwr gyda chwmni cynhyrchu Telesgôp.

Mae wedi cyfarwyddo a chynhyrchu llu o raglenni a digwyddiadau byw dros y blynyddoedd, yn cynnwys rhaglenni Sioe Frenhinol Cymru ar S4C.

Fel uwch gynhyrchydd, fe enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2020 am y raglen ddogfen The Prince and the Bomber, a oedd yn edrych yn ôl ar gyfnod ar yr arwisgo yn 1969.

Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn cynrychioli nifer o gwmnïau yn y sector teledu annibynnol yng Nghymru, sy’n gyfrifol am greu rhaglenni ar gyfer darlledwyr mwyaf blaenllaw’r wlad.

Mae Dyfrig Davies wedi bod yn aelod o Gyngor TAC ers blynyddoedd.

Urdd

Daw Dyfrig Davies, sy’n 57 oed, yn wreiddiol o ardal Castell Newydd Emlyn.

Mae bellach yn byw yn Llandeilo gyda’i wraig, Nia, ac mae ganddo ddwy o ferched, Mared a Siwan.

Hefyd, mae’n gadeirydd ar fudiad Urdd Gobaith Cymru.

Bydd yn cymryd lle Gareth Williams, prif weithredwr Rondo, fu’n gadeirydd TAC ers tair blynedd a hanner.

Diolchodd i Gareth Williams, y cyn-gadeirydd, am ei gyfnod yn y swydd.

“Hoffwn ddiolch o galon i Gareth am ei ymrwymiad diflino i waith y cadeirydd ers 2018,” meddai Dyfrig Davies.

“Rydyn ni fel Cyngor TAC yn gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i’n gwaith, sydd wedi codi proffil TAC yn sylweddol, yn enwedig ers dechrau cyfnod y pandemig.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn gadeirydd, a pharhau i feithrin perthynas gref TAC gydag S4C a’r darlledwyr eraill, a gyda phartneriaid a rhanddeiliaid gwleidyddol a rheoleiddio er budd ein holl aelodau yn y sector cynhyrchu yng Nghymru.ʺ

Dyfodol

Mae Gareth Williams, y cadeirydd sy’n gadael, wedi croesawu ei olynydd yn y swydd.

“Rydw i wrth fy modd mai Dyfrig fydd fy olynydd fel cadeirydd,” meddai.

“Ar ran Cyngor TAC, hoffwn ei groesawu i’r rôl, a gwn y bydd yn ei chyflawni yn ei ffordd gadarn, gytbwys ac adeiladol arferol.

“Mi fydd Dyfrig yn ymuno â thîm gweithredol newydd TAC, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y datblygiadau fydd ar y gweill i’r aelodaeth yn y dyfodol.ʺ