Mae S4C yn gwahodd cerddorion a chyfansoddwyr i gyflwyno’u caneuon ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2022.

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn cipio tlws Cân i Gymru a gwobr o £5,000, gyda’r ail a’r drydedd hefyd yn derbyn gwobrau o £2,000 a £1,000.

Y gân ‘Bach o Hwne’ gan Morgan Elwy Williams, yn wreiddiol o Dan-y-Fron ger Llansannan, ddaeth i’r brig yn gynharach eleni.

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen, yn ffyddiog o ddod o hyd i stôr o gerddoriaeth Gymraeg newydd ledled Cymru, a thu hwnt.

“Rhan o apêl Cân i Gymru ydy’r ffaith ein bod ni’n cael clywed cerddoriaeth newydd gan amryw o gyfansoddwyr – wynebau cyfarwydd a rhai newydd,” meddai.

“Faswn i’n annog ceisiadau o bob genre cerddorol er mwyn cynrychioli’r cyfoeth sydd ‘na yng Nghymru heddiw.”

Y gystadleuaeth

Bydd wyth cân yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr y diwydiant yn y pen draw i gystadlu yn Cân i Gymru 2022.

A bydd yr wyth cân yn cystadlu’n fyw ar S4C ar nos Wener, Mawrth 4 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris wrth y llyw.

Ond y gwylwyr adref bydd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw’u pleidlais dros y ffôn.

“Ar ôl cyfnod anodd i’r celfyddydau a cherddoriaeth fyw, dyma gyfle i ni ddathlu a thynnu sylw at y dalent gerddorol ry’n ni’n ffodus o’i chael yma yng Nghymru,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth S4C.

“Mae’r cyffro a’r teimlad sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth yn un unigryw iawn. Ewch amdani.”

Dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru 2022 yw Ionawr 2.