Mae gwaith newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor yn cael ei ddangos am y tro cyntaf mewn gŵyl gerddoriaeth nodedig.

Cafodd y concerto – a gafodd ei ysgrifennu gan yr Athro Mealor, cyfansoddwr y mae ei waith yn cael ei berfformio’n aml iawn ar lwyfannau rhyngwladol ac sy’n hanu o Gei Connah – ei gomisiynu ar y cyd gan Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Dywed y trefnwyr fod cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a noddwyr yr ŵyl wedi bod yn hanfodol er mwyn galluogi’r digwyddiad i fynd yn ei flaen.

Y prif noddwyr yw sefydliad gofal Parc Pendine, sy’n rhoi lle canolog i’r celfyddydau trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine sy’n cefnogi’r celfyddydau a gweithgareddau cymunedol ym mhob cwr o Gymru.

Cyfansoddodd yr Athro Mealor, sy’n rhannu ei amser rhwng cyfansoddi ac addysgu ym Mhrifysgol Aberdeen, y concerto piano ar ôl cael ei gomisiynu ar y cyd gan yr ŵyl a Gŵyl JAM on the Marsh yng Nghaint.

Cafodd y concerto ei berfformio gerbron cynulleidfa fyw am y tro cyntaf yng nghartref traddodiadol yr ŵyl, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fis diwethaf.

Cafodd y cyngerdd ei ffilmio a bydd yn chwarae rhan bwysig yn yr ŵyl sy’n ailddechrau fel gŵyl ar-lein ar Dachwedd 15, gyda’r cyngherddau ar gael i’w gwylio am ddim.

Ymateb y cyfansoddwr

Dywedodd Paul Mealor, wrth achub cyfle i gael seibiant sydyn rhwng ysgrifennu darnau cerddorol ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu, ei fod wrth ei fodd o glywed y concerto yn cael ei berfformio yn yr eglwys gadeiriol gan y pianydd John Frederick Hudson a cherddorfa’r NEW Sinfonia dan arweiniad Robert Guy.

Mae’r concerto, sef yr ail iddo ei gyfansoddi, yn un symudiad hir, sydd ychydig dros ugain munud o hyd ac wedi’i rannu’n dair adran.

“Mae’r darn yn ddarn tirlun ac yn symud yn araf iawn,” meddai.

“Mae’n dilyn hynt diwrnod gan ddechrau gyda chodiad haul ac mae yna storm yn ei ganol ac yn raddol mae’n mynd yn fwy cymhleth wrth i’r darn fynd yn ei flaen.

“Mae ei ddiwedd mor anodd i’w chwarae does dim byd i’w wneud ond stopio.

“Dylai pobol gadw clust allan am y seiniau anarferol sydd ynddo. Mae yna lawer iawn o offerynnau taro.”

Offeryn anghyffredin

Ychwanega Paul Mealor fod yna offeryn anghyffredin, flecsaton, yn cael ei chwarae yn y concerto.

“Mae’n offeryn metel sy’n creu sain rhyfedd,” meddai.

“Mae’n haen fetel fechan hyblyg wedi’i dal mewn ffrâm wifren sy’n gorffen mewn handlen ac mae ei sain yn debyg i’r llif gerddorol.”

Ond mae sgrech gwylanod yn cael ei chreu gan y sielyddion yn chwarae effaith glissando harmonig ar un o bedwar llinyn yr offeryn.

“Yn y perfformiad yn yr eglwys gadeiriol roedd pobl yn troi rownd i edrych a oedd yna wylanod yn yr adeilad,” meddai.

William Mathias

Astudiodd Paul Mealor gyfansoddi o oed ifanc a derbyniodd wersi gan gyfansoddwr brenhinol arall, yr Athro William Mathias, sylfaenydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, hanner canrif yn ôl.

Dywed y byddai’n ymweld â’r athro yn ei gartref ym Mangor ac y byddai’n aml yn cyfarfod ag Aled Jones, y bachgen soprano a drodd yn gyflwynydd teledu, ar garreg y drws.

“Roedd Aled yn derbyn gwersi canu gan wraig yr athro, Yvonne, a oedd yn gantores opera o’r radd flaenaf. Fe ddaethon ni i adnabod ein gilydd yn reit dda,” meddai.

Mae cysylltiadau Paul Mealor â Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru hefyd yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer.

Safodd ochr yn ochr â’r Athro Mathias wrth iddo ef ei hun berfformio ei goncerto i’r piano gan droi tudalennau’r gerddoriaeth ar ei gyfer.

“Roeddwn yn falch o gael fy nghomisiynu i ysgrifennu’r darn hwn ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd ei berfformio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy sydd ag acwsteg hollol wych,” meddai.

Cafodd yr holl docynnau eu gwerthu ar gyfer y cyngerdd ac ymhlith y dorf y noson honno roedd ei rieni ac aelodau eraill o’i deulu.

‘Hudolus’

Dywedodd Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, fod y perfformiad byw yn “hudolus” ac i’r gwaith gael ei berfformio “fel y dylai” o flaen cynulleidfa fyw.

“Rhoddodd NEW Sinfonia berfformiad cyfareddol a rhoddodd John Frederick Hudson berfformiad trydanol o’r darn,” meddai.

“Roeddem yn falch o gomisiynu’r concerto ar y cyd â JAM in the Marsh ac mor falch ein bod wedi gallu rhoi cyfle i Paul, ei deulu a’r gynulleidfa ei glywed yn cael ei chwarae’n fyw.

“Rwy’n siŵr y bydd yr un mor dda clywed y recordiad pan fydd yn cael ei ddarlledu fel rhan o ddigwyddiad hybrid eleni.”

Gyrfa

Daeth Paul Mealor i amlygrwydd ddegawd yn ôl pan gafodd un o’i gyfansoddiadau, Ubi Caritas, ei berfformio ym mhriodas y Tywysog William a Catherine Middleton.

Yn ddiweddarach cyfansoddodd Paul y gân “Wherever You Are”, a gyrhaeddodd rhif un yn Siart Senglau’r Deyrnas Unedig adeg Nadolig 2011 ac mae hefyd wedi cyfansoddi opera, tair symffoni, concerto ar gyfer yr ewffoniwm a cherddoriaeth siambr.

Yn ddiweddar, cafodd ei gerddoriaeth ei chlywed ar gyfres bywyd gwyllt BBC One, Wonders of the Celtic Deep. Roedd ei gerddoriaeth atmosfferig yn asio gyda’r golygfeydd dramatig a gafodd ei ffilmio gan naturiaethwyr arbenigol ac a gafodd eu lleisio gan yr actores brofiadol, y Fonesig Sian Phillips.

Dywedodd Ann Atkinson y bydd recordiadau’r cyngerdd cerddorfaol ac eraill a gafodd eu perfformio yn yr eglwys gadeiriol ar gael ar-lein, ynghyd â chyfres o berfformiadau eraill a gafodd eu recordio mewn mannau arall.

Dywed fod y rhain yn cynnwys perfformiadau gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a gafodd eu recordio yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Mae’r pianydd o fri Iwan Llewelyn Jones wedi recordio darnau ar gyfer yr ŵyl yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar eu piano Steinway newydd ac mae’r gantores werin a’r delynores flaenllaw Gwenan Gibbard wedi recordio sawl cân werin Gymraeg a gafodd eu hailddarganfod yn ddiweddar yn stiwdios Sain ger Caernarfon.

Mae Côr Eglwys Gadeiriol Llanelwy a Phumawd Tango Llundain ymhlith y perfformwyr eraill.