Roedd y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol Tregaron wedi ail-ddechrau neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 3).

Ar ôl gohirio’r brifwyl ddwywaith, fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf, a hynny rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6.

Wrth gyhoeddi’r bwriad i gynnal yr ŵyl yn 2022, dywedodd Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fod heddiw yn ddiwrnod “arbennig o dda” i bobol yng Ngheredigion wrth “ddatgan yn glir ein bod ni wedi ail-gydio yn y gwaith o baratoi i gynnal yr Eisteddfod yn ein hardal ni’r flwyddyn nesaf”.

Dywedodd hefyd fod yna her o’u blaenau dros y misoedd nesaf wrth ysbrydoli trigolion yr ardal i ymuno yn y paratoadau.

Bydd y gweithgareddau paratoi yn rhai bach ar y dechrau, meddai, wrth i bobol ddod i arfer â chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb eto, a bydd y Pwyllgor Gwaith yn dilyn canllawiau’r Eisteddfod a chyngor Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu pawb.

‘Eisteddfod i’w chofio’

“Rwy’n siŵr y bydd pawb ar draws y sir yn dathlu ein bod ni am gael ein Heisteddfod, ac am groesawu Cymru gyfan draw atom ni’n ystod yr haf nesaf. Ac fe fydd hi’n Eisteddfod i’w chofio,” meddai Elin Jones.

“Fel pawb arall, rydw i’n edrych ymlaen yn barod at weld hen gyfeillion o amgylch y Maes a mwynhau’r rhaglenni a’r sesiynau amrywiol sy’n dangos ein diwylliant a’n hiaith ar eu gorau.

“Mae yna her o’n blaenau ni dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ysbrydoli a sbarduno trigolion y sir i ymuno â ni yn ein paratoadau.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pawb yn gwybod am yr Eisteddfod ac yn awyddus i ddod draw i fwynhau’r mil a mwy o weithgareddau fydd yn digwydd o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf – maen nhw wedi llwyddo i sicrhau bod yna frwdfrydedd ac awch am Eisteddfod ymysg pobol ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt drwy gynnal gwyliau digidol gwych – ond does dim byd tebyg i’r wefr o gael dychwelyd i Faes ‘go iawn’ ac ail-gydio yn y gwaith ar lawr gwlad.

“Ac wrth i ni ail-gydio yn y gwaith, fe fyddwn ni hefyd yn cofio am y rheini sydd wedi dioddef, y rheini rydyn ni wedi’u colli ac sydd wedi colli anwyliaid yn sgil COVID-19 dros y flwyddyn a hanner diwethaf.”

‘Hir yw pob aros’

Ychwanega Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei bod hi’n “braf” ymuno â’r tîm yng Ngheredigion neithiwr i drafod ail-gydio yn y gwaith.

“Mae’r brwdfrydedd am Eisteddfod arbennig yn sicr yn dal yn fyw iawn yma’n lleol,” meddai.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych ar y Maes ac ar y cynnwys artistig, ac yn edrych ymlaen at gael cyhoeddi rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf.

“Rydyn ni hefyd wedi derbyn dros 250 o ymholiadau ychwanegol am le ar y maes carafanau, ac mae pawb wedi’u gosod ar restr aros ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n gobeithio gallu cysylltu â phawb dros yr wythnosau nesaf i ddweud a oes lle ar eu cyfer.

“Mae’n amlwg fod pawb, fel ninnau, wedi gweld eisiau’r Eisteddfod dros y cyfnod anodd yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw iawn at gael dod i Geredigion o’r diwedd.

“Hir yw pob aros yn ôl y sôn – a mawr fydd y croeso yma yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf hefyd.”