Mae gwaith Ruth Jên, sy’n cael ei arddangos yn MOMA ym Machynlleth ar hyn o bryd, yn edrych ar gneifio defaid, clustnodau, a’r traddodiadau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â diwrnodau cneifio, yn ogystal â gwlân fel defnydd.

Mae’r gwaith yn gyfle i ddathlu amaethwyr, meddai Ruth Jên wrth golwg360, “pobol sydd, yn aml iawn, ddim yn cael eu cydnabod am eu creadigrwydd, pa mor ymarferol yw eu ffordd nhw o ddatrys problemau, a pha mor galed yw eu bywydau nhw”.

Cafodd y gwaith ei greu yn ystod ei chyfnod yn astudio MA yn yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth – a chan ei bod hi’n arfer byw mewn tyddyn, roedd hi’n ymwybodol o’r arfer o glustnodi defaid.

Ond gyda’r arfer o dagio defaid yn electronig yn orfodol ers Clwy’r Traed a’r Genau, mae’r arfer o glustnodi yn rhywbeth all “farw allan”, er bod to hŷn yn tueddu i’w ffafrio, meddai.

Dogfennu nodau clustiau

Y ffordd roedd y clustnodau yn cael eu dogfennu wnaeth ddenu sylw Ruth Jên.

“Roeddwn i wedi gweld llyfrau nodau clustiau, hen rai, a gweld bod yna ffermydd hefyd yn dogfennu nodiadau eu hardal nhw yn eu harddull eu hunain – roedd rhai yn ysgrifennu enwau’r ffermydd ac yn llunio ryw dempled,meddai.

“Roedd y ffyrdd roedd pobol yn mynegi eu hunain yn greadigol yn ddiddorol.”

Gwelodd Ruth Jên yr enghraifft hynaf yng Nghymru o lyfr nod clust, sef llyfr ar ffurf consertina gan Huw Edward o ardal Rhydymain.

“Pan welais i hwnnw roeddwn i’n meddwl bod hwn mor wreiddiol, ac wrth gwrs rywun yn ei wneud e mas o angen ymarferol ond yn gynllun gwreiddiol iawn o nodi.

“Unwaith y dechreuais i fynd mewn i’r peth, es i lawr i Sain Ffagan ac edrych ar eu casgliad nhw… roeddet ti’n gallu prynu copy book yn ôl yn y 30au lle oedd gyda ti jyst wyneb dafad ynddo fe a bydde ti’n llanw mewn y nod clust bach yn y sgwaryn bach ar glust y ddafad.

“A deall wedyn ei fod e’n rhywbeth byd-eang hefyd, bod yna bobol yn clustnodi camelod yn y Sahara – a mae llwyth y Sami yn gwneud e efo ceirw.

“Maen nhw’n dysgu’r plant yn yr ysgol gynradd wrth ymarfer ar risgl coeden. Y mwyaf roeddwn i’n edrych mewn i’r peth, y mwyaf difyr roedd e’n mynd!”

“Perthyn i’r tir”

Gwelodd Ruth Jên y potensial o ran y patrymau yma, yn ogystal â bod y nodau clust yn “rhyw fath o iaith weledol” gyda dim ond rhai yn deall ei hystyr.

“Wrth gwrs, roedd y peth hefyd i wneud efo diwylliant yng Nghymru bod yna enwau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd … Mae’n rhywbeth ieithyddol hefyd,” meddai Ruth Jên.

“Mae’n perthyn i’r tir, ddim i’r ffarmwr, i’r fferm mae’r nod clust yn perthyn. Os yw ffarmwr yn gwerthu’r fferm, mae’r nod clust yn aros ar y fferm.

“Mae’n ffordd bellach i bobol olrhain hanes adfeilion, achos mae enwau’r ffermydd wedi cael eu cofnodi yn y llyfrau nodau clust. Ac wrth gwrs, mae hwnna’n bwnc llosg i ni ar hyn o bryd efo bobol yn newid enwau’r llefydd yma.

“Mae yna gofeb o lot o’r adfeilion a thai gwag sydd bellach, ella, wedi cael eu henwau wedi newid yn y llyfrau hyn.

“Mae e’n rhywbeth sydd hefyd falle’n mynd i farw mas oherwydd bod tagio electronig, ers Clwy’r Traed a’r Genau, yn orfodol.

“Bydd llai a llai o ffermwyr yn mynd ati i glustnodi yn y ffordd draddodiadol.

“Mae torri clustiau’r ŵyn efo’r patrymau yma sy’n perthyn i’r ffermydd yn cymryd lot fawr o amser, os ydyn nhw’n mynd i wneud hynny ar ben gorfod tagio wel mae dyn yn mynd i holi… maen nhw’n gwneud y gwaith dwywaith.

“O siarad efo lot fawr o ffermwyr, mae’r to hŷn yn ffafrio’r nod clust traddodiadol achos mae tagiau’n gallu rhwygo, cael eu colli.”

“Dathliad”

Yn ystod blynyddoedd diwethaf y cwrs, fe wnaeth Ruth Jên edrych ar wlân a chneifio, gan ddilyn ffarmwr oedd yn mynd â chriw o fechgyn o gwmpas yn cneifio ffermydd yr ardal.

Mae’r arddangosfa yn cychwyn efo ffilm o ffermwr, Dai Evans neu Dai Coed, yn cneifio mewn dull arbennig, ac yn gorffen efo ffilm o’r ddawnswraig Elan Elidyr yn dehongli symudiadau’r cneifwyr mewn dawns.

“Ryw ddathliad o waith beunyddiol a chreadigrwydd y bobol yma” yw hanfod yr arddangosfa, meddai Ruth Jên.

“Dw i’n trio dathlu be dw i’n ei weld… pobol sydd, yn aml iawn, ddim yn cael eu cydnabod am eu creadigrwydd, pa mor ymarferol yw eu ffordd nhw o ddatrys problemau, a pha mor galed yw eu bywydau nhw. Dw i’n credu bod yna le i ddathlu.”

  • Bydd yr gwaith yn cael ei arddangos yn MOMA nes 13 Tachwedd.