Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi tri artist preswyl cyfrwng Cymraeg i weithio gyda’i staff a myfyrwyr celf a dylunio.

Bydd Karolina Jones, Lily Mŷrennyn a Ffion Richardson wedi’u lleoli yng Ngholeg Celf Abertawe ac yn mentora myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd hon.

Trwy bartneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bwriad y rôl yw cefnogi myfyrwyr, yn enwedig y rheiny sy’n siarad Cymraeg, a’u hannog nhw i ddefnyddio’r iaith.

Yn ogystal, bydden nhw’n cael y cyfle i ddatblygu eu harferion creadigol fel artistiaid.

Cynigwyd y rôl i’r tair ar ôl proses o gyfweliadau, lle bu’n rhaid iddyn nhw arddangos esiamplau o’u gwaith celf a chreu cyflwyniad o flaen panel.

“Anrhydedd”

Mae’r tair ohonyn nhw wedi graddio o Goleg Celf Abertawe, ac mae’r profiad o gael dychwelyd yno ac ymollwng i’r awyrgylch greadigol “wedi bod yn hyfryd”.

Gobaith y tair yw y bydd gweithio o fewn amgylchedd y Coleg Celf, a chael mynediad i’w holl gyfleusterau, yn helpu i ddatblygu’u harferion fel artistiaid dros y flwyddyn nesaf.

Graddiodd Lily Mŷrennyn, sy’n dod o’r Rhondda, ar y cwrs BA Darlunio yn 2020, a dywedodd ei bod hi’n “dipyn o anrhydedd i fod yn un o’r artistiaid preswyl”.

“Mae’n beth hyfryd ein bod ni’n medru rhannu ein gwerthfawrogiad o’r iaith Gymraeg gyda’n harferion creadigol”.

Mae hi’n yn gobeithio ymgorffori mwy o’i harferion creadigol, fel cerameg a thecstilau, mewn i’w harfer darlunio.

Mae hi hefyd yn gobeithio ceisio gweithio mwy ar brosiectau naratif, a hi oedd enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant eleni.

“Hybu’r iaith”

Dywedodd Karolina Jones, sy’n byw yn Abertawe ond yn dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol, mai ei dymuniad yw datblygu mwy ar ei Chymraeg.

Mae hi’n gobeithio cael rhagor o brofiad yn y maes argraffwaith, tecstilau, cerameg ac amryw o bethau eraill.

Un o’i chynlluniau hefyd yw gwneud mwy o waith ar ei hunaniaeth Pwyleg a Chymraeg, a chafodd ei gwaith MA Cyfathrebu Gweledol ei arddangos yn yr Eisteddfod AmGen eleni.

Trwy’r prosiect MA, o dan y teitl The Polkymraes, roedd hi’n archwilio ei hunaniaeth, a’r teimlad ansicr sydd ganddi o beidio â pherthyn yn iawn i Gymru na’r gwreiddiau yng Ngwlad Pwyl.

“Mae’r Coleg Celf yn groesawgar tuag at siaradwyr Cymraeg o bob lefel, yn enwedig dysgwyr sy’n beth hyfryd, ac mae rôl fel hyn yn dangos pwysigrwydd hybu’r iaith ar draws y gyfadran,” meddai Karolina Jones.

Gwreiddiau

Graddiodd Ffion Richardson gyda gradd BA mewn Patrwm Arwyneb eleni, a bydd hi’n parhau â’i gwaith yn y maes hwnnw er mwyn cael rhagor o brofiad gwaith i fedru datblygu fel dylunydd.

Mae ganddi fusnes ei hun hefyd, sy’n creu gwaith cerameg â llaw, ac mae hi’n gwerthu’r cynnyrch ar Instagram.

Fel un o’u dyletswyddau cyntaf fel artistiaid preswyl y Gymraeg, bydd gwaith y tair yn cael ei arddangos mewn arddangosfa dan y teitl Gwreiddiau yn y Creative Bubble yn Abertawe o heddiw (5 Tachwedd) hyd at 11 Tachwedd.

Dywedodd Ffion Richardson eu bod nhw wedi penderfynu enwi’r arddangosfa yn ‘Gwreiddiau’ “gan fod yr arddangosfa yn dangos gwaith sy’n cynrychioli rhan o’n hunaniaeth”.

“Gall hwn fod yn hunaniaeth bersonol, yn hunaniaeth greadigol, neu’n gymysgedd o’r ddau.”

“Gwych”

Dywedodd Gwenllian Beynon, Cydlynydd y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe: “Mae’n wych bod yn ôl yn dysgu ar y campws a chael tri artist preswyl y Gymraeg yma gyda ni eleni i weithio gyda staff a myfyrwyr i hybu defnydd y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe.

“Mae rôl yr artistiaid preswyl yn golygu gweithio fel artistiaid yn ogystal â gweithio o ddydd i ddydd gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol. Rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tair eleni.”