Mae’r actor a’r sgriptiwr Mei Jones wedi marw’n 68 oed, yn dilyn cyfnod o salwch.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am gyd-greu ac actio’r cymeriad Wali Tomos yn C’mon Midffîld – un o’r creadigaethau comedi mwyaf poblogaidd erioed ym maes teledu Cymraeg.

Serenodd mewn pum cyfres, dwy ffilm ac un bennod Nadoligaidd arbennig fel llumanwr hoffus Bryn Coch.

Cadarnhaodd S4C ei farwolaeth heno.

Cefndir

Yn wreiddiol o Ynys Môn, aeth i’r brifysgol yn Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth ac wedyn ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Yna, ymunodd â Theatr Bara Caws ac roedd yn adnabyddus am ei waith darlledu ar Radio Cymru fel rhan o Wythnos i’w Anghofio a Pupur a Halen.

Ond am C’mon Midffîld y caiff ei gofio’n bennaf.

Darlledwyd tair cyfres ar Radio Cymru o Fangor gydag Elwyn Jones yn cynhyrchu.

Yn dilyn ymateb brwd i’r cyfresi radio, cafodd cyfres deledu ei darlledu am y tro cyntaf yn 1988 – a datblygu’n un o’r cyfresi Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.

Enillodd Mei Jones ac Alun Ffred Jones wobr ‘Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin – Cymreig’ BAFTA Cymru ar gyfer y gyfres yn 1992.

Yn 1990, cafodd Mei Jones ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o chwarae rhan mewn llosgi cartrefi gwyliau – ochr yn ochr ag un arall o griw C’mon Midffîld, Bryn Fôn – ond fe’u rhyddhawyd yn ddi-gyhuddiad.

Teyrngedau

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Alun Ffred Jones, ei gyd-awdur ar C’mon Midffîld wrth Newyddion S4C: “Roedd Mei yn actor dawnus a scriptiwr gwreiddiol oedd yn rhoi o’i orau bob amser ac yn disgwyl hynny gan bawb oedd yn cydweithio ag o.

“Mi allai, ac efallai y dylai, fod wedi ysgrifennu rhagor, ond gallwn ddiolch am yr hyn a gafwyd. Mi wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i’r byd adloniant Cymraeg.”

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Bydd ein gwylwyr yn fythol ddiolchgar i Mei am C’mon Midffîld a Wali gan fod y ddrama a’r cymeriad ymysg trysorau mwya’r sianel.

“Cyhyd ag y bydd Wali’n rhedeg y linell gyda’i faner ni eith Mei byth yn angof.”

Mae’n gadael pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron a tri o wyrion.