Mae John Pierce Jones yn dweud mai cryfder Mei Jones oedd ei fod yn “nabod ei gynulleidfa fel cefn ei law”.

Daeth cadarnhad neithiwr (nos Wener, Tachwedd 5) fod Mei Jones wedi marw’n 68 oed yn dilyn cyfnod o salwch.

Bu’r ddau yn cyd-actio yn y gyfres gomedi boblogaidd C’mon Midffîld – John Pierce Jones fel Mr Arthur Picton a Mei Jones fel Wali Tomos, un o’r cymeriadau mwyaf hoffus a phoblogaidd yn hanes S4C.

Roedd y ddau wedi’u trwytho yn nhraddodiad pêl-droed pentrefi’r gogledd ac fel mae John Pierce Jones yn egluro, adnabod y bröydd hyn a’u cymeriadau oedd un o gryfderau’r gyfres y bu Mei Jones yn ei chyd-ysgrifennu ag Alun Ffred Jones.

“Ro’n i’n ei gofio fo’n chwarae pêl-droed i ddechrau, yn hogyn ifanc iawn yn Sir Fôn,” meddai wrth golwg360.

“Achos roedd o wedi gwneud tipyn o enw yn y byd pêl-droed. Dw i’n siŵr fod o wedi bod yn chwarae i bentrefi lleol i ‘nghartref i.

“Roedd o wedi cael cap i Ysgolion Cymru, ac roedd o’n enw reit fawr ymysg ieuenctid pêl-droed Môn.”

O’r byd pêl-droed i fyd y ddrama

Ym myd y ddrama y daeth y ddau ar draws ei gilydd wedyn, a hynny wrth iddyn nhw dderbyn eu gwaith proffesiynol cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru, cwmni theatr ieuenctid yng ngofal Wynford Ellis Owen, yn Eisteddfod Hwlffordd yn 1972.

“Dyna ddechrau’r cyfeillgarwch yn fan’no, a deud y gwir,” meddai. “Roeddan ni wedi ryw nabod ein gilydd cynt, ac wedyn aethon ni ar daith efo hi.

“Y peth nesa’ glywais i oedd fod o wedi mynd i Goleg Drama yng Nghaerdydd ac ro’n i’n dal i’w weld o’n achlysurol ac wedi dod yn ffrindiau efo fo ers dyddiau’r theatr ieuenctid.

“Mi ddaeth yna griw ohonyn nhw at ei gilydd i Fangor, criw o ieuenctid oedd newydd gael graddio o Goleg Cerdd a Drama Cymru – Cefin Roberts a Mei, y diweddar Dafydd Dafis ac yn y blaen.

“Mi wnaethon nhw farc enfawr ac mi fyddan nhw’n cael eu cofio yn hanes y theatr yng Nghymru.

“Mi ddaethon nhw â stwff newydd, ac roeddan nhw’n sgwennu eu stwff eu hunain. Roedd Mei a Cefin yn sgwennu stwff ardderchog, ac mi ddaethon nhw â rhyw ffresni newydd.

“Mi ddoth yna griw o actorion proffesiynol am y tro cyntaf, doedd yna ddim ond rhyw ychydig yma ac acw cyn hyn. Ond roedd y rhain yn llenwi dipyn o’r bylchau ac wedyn mae o wedi tyfu ers hynny.

“O gwmpas Bangor yr adeg yna roedd yna griw mawr, ac mi oedd pobol yn deud, “Wel, be’ am i ni sefydlu ein theatr ein hunain?’ fel eu bod nhw ddim yn gaeth i gorfforaethau na dim byd fel yna.

“Mi ddoth Mei, Valmai Jones, Iola Gregory a chriw ohonyn nhw at ei gilydd i ddechrau Bara Caws, a dyna’r cnewyllyn.

“Dechrau drwy wneud comedi oeddan nhw, ac roedd Mei yn amlwg yn y sgwennu, a dyma ddechrau magwraeth sgwennu Mei hefyd.

“Dechreuon nhw yn Steddfod Wrecsam [yn 1977], Croeso i’r Royal oedd yr un gyntaf un – roedd rhai pobol yn eu rhegi nhw i’r cymylau ond eraill yn meddwl fod o’n wych.

“Ond roedd pobol wir yn cymryd sylw ac rydan ni’n gwybod bellach fod Bara Caws, yn ffodus neu’n anffodus, wedi mynd yn rhan o’n sefydliad ni.”

‘Actor cydnabyddedig’ a’i gyfraniad i Fro Aled

Erbyn hynny, roedd yn “actor cydnabyddedig fel un o actorion da iawn Cymru”, meddai John Pierce Jones.

“Y tueddiad ydi nad ydan ni ddim ond yn ei gofio fo fel Wali ac fel actor comedi, ond roedd o’n gwneud pethau ar y llwyfan yr un pryd yr adeg hynny.

“Aeth o ymlaen i sgwennu pethau fel Almanac, mi sgwennodd o un neu ddau o’r sgriptiau fel rhyw fath o brentisiaeth eto, ac actio mewn llawer o’r rheiny.

“Wedyn, roedd o’n byw ym Mro Aled a’r cyfraniad wnaeth o efo’r sioeau wnaeth o i ieuenctid y rhan yna o’r hen Sir Ddinbych yn aruthrol.

“Roedd o’n dangos ei ddawn fel cyfarwyddwr hefyd yr adeg hynny. Roedd rhai o’r sioeau’n arbennig iawn, iawn.”

Dechreuadau C’mon Midffîld

“Roedd hefyd yn gwneud dipyn efo cwmni Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug,” meddai wedyn am y cyfnod arweiniodd at greu ei waith enwocaf ar radio a theledu.

“Roedd Alun Ffred hefyd wedi bod yn chwarae pêl-droed i dimau lleol fel Llanuwchllyn.

“Ac felly roedd y ddau efo’r profiad a dyma nhw’n rhannu profiadau o chwarae pêl-droed o’r safon yna i dimau pentrefi bach cefn gwlad a’r cymeriadau oedd ynghlwm â hynny.

“A dyma nhw’n penderfynu creu sgript efo’i gilydd a’i hanfon i Radio Cymru, mi wnaethon nhw beilot o’r enw C’mon Midffîld ond wnaeth hi ddim gafael.”

Byddai’n rhaid aros rhai blynyddoedd eto i’r gyfres weld golau dydd eto, ac Elwyn Jones erbyn hynny yn gynhyrchydd ym Mangor.

Sgen ti ddim byd am bêl-droed?‘ meddai hwnnw, a hwnnw’n ddyn pêl-droed.”

‘Cymeriadau o gig a gwaed’

Aeth Elwyn Jones ati wedyn i helpu’r criw i ddatblygu’r sgript, a dyna pryd y cafodd John Pierce Jones y sgript drwy’r post.

“Roedd y ddau ohonon ni wedi tyfu i fyny yn y gymdeithas yna, roeddan ni’n nabod cymeriadau o gig a gwaed, a dyna pam roedd pawb yn medru uniaethu efo fo,” meddai.

“Roedd pawb o ‘nghenhedlaeth i’n cofio timau fel Niwbwrch, dau beth oedd yn y pentre’ yna – côr a’r tîm pêl-droed.

“Roeddan nhw’n tynnu ar eu profiadau felly, ac efo’r ddawn o lwyfannu a dallt elfennau o beth sy’n gwneud sgript dda.

“Mi wnaethon ni’r sgript gynta’ eto ac mi aeth fel tân gwyllt!

“Roeddan ni’n gwybod ein bod ni wedi cael llwyddiant pan oedd timau’n mynd i’w gemau mewn bws ac yn deud wrth bawb ar y bws i fod yn ddistaw ar ddydd Sadwrn iddyn nhw gael clywed Midffîld!”

O’r radio i’r teledu

Ar ôl sawl blwyddyn, symudodd y gyfres o donfeddi Radio Cymru at S4C a’r sgrîn fach, gyda Ffilmiau’r Nant yn ei chynhyrchu.

“Roeddan nhw’n dŵad ac yn dŵad, ac mi oedd y sgript bob tro yn gweithio,” meddai John Pierce Jones, wrth drafod dawn sgriptio Mei Jones.

“Roedd yna ambell un [oedd ddim yn gweithio], a byddai Mei yn dod ’nôl y diwrnod wedyn, “Doedd hynna ddim yn gweithio, dyma i chi sgript arall” ac roedd o wedi ailwneud ambell i olygfa.

“Yn y diwedd, Mei oedd yn eu sgriptio nhw i gyd, ac wrth gwrs roedd Alun Ffred yn cyfarwyddo ac yn cynhyrchu.

“Roedd Mei yna yn ymarfer, ac roedd ei gyfraniad o i’r ochr gyfarwyddo, yn enwedig efo llunio’r cymeriadau, mi fuodd o’n help mawr efo fi.

“Roedd o’n ofnadwy o weithiwr caled, ac mi oedd o’n rhoi ei holl egni i mewn iddi, ac mi oedd o’n llwyddiant ysgubol.”

‘Llwyddiant yn rhwystr’

Yn ôl John Pierce Jones, roedd llwyddiant y gyfres “yn dechrau dod yn rhwystr” ar ôl tair cyfres radio a phum cyfres deledu a dwy bennod Nadoligaidd arbennig.

“Roedd llwyddiant yn rhyw fath o rwystr iddo fo fynd ymlaen efo dim mwy,” meddai am Mei Jones.

“Ond cofiwch, dw i ddim yn meddwl fod o wedi cael dim anogaeth, ddaeth yna neb ato fo i ofyn iddo fo os oedd o isio gwneud rhywbeth arall, mi wnaeth o jyst byw yn y peth yma, ac mi wnaeth o ryw golli ei hyder na fedra fo wneud dim byd.

“Roedd o’n byw i Midffîld ac roedd o’n drueni achos gollon ni dalent mawr yn y blynyddoedd ola’ yma.

“Mi oeddan ni’n gweld ein gilydd o leia’ bob pythefnos tan iddo fo fynd yn sâl.

“Mae o’n golled mawr i mi.

“Fel boi, roedd gynno fo ochr ddigri iawn.

“Os oedd o’n driw i chi, roedd o’n gefnogol aruthrol ac mae yna lawer un efo dyled fawr iddo fo lle mae o wedi’u helpu nhw ar hyd y daith.”

“A deud hynna, mi gafodd o siom hefyd yn S4C,” meddai wedyn am ei gyfnod gyda’r sianel yn dod i ben.

“Mi wnaeth S4C ei gyflogi fo – ac ro’n i’n meddwl fod o’n syniad gwych – fel ymgynghorydd sgriptiau, felly roedd o’n dod ag awduron ifainc at ei gilydd ac yn helpu nhw i sgwennu pethau ac i gyflwyno pethau o’r newydd ac i ddod â phobol ddi-brofiad.

“Roedd o’n arbennig, roedd hi fel fysa’r swydd wedi’i gwneud iddo fo yn y nefoedd.

“Mi ofynnodd S4C iddo fo wneud ffilm arall, y peth Rasbrijam yna ac roedd sôn ein bod ni am fynd ’nôl i wneud cyfres arall Midffîld, felly dyma pwy bynnag oedd o yn S4C yn deud ‘Rydan ni’n tynnu chdi o dy swydd rŵan a gei di fynd yn dy ôl ar ôl i ti orffen’, am wn i.

“Wel, wnaethon ni’r ffilm Rasbrijam a fuo yno ddim cyfres arall, ac roedd Mei allan o waith a chafodd o ddim cynnig ei job yn ôl ac mi fuodd hynny’n ergyd fawr i’w hyder o.”

Gwaddol Wali Tomos

Yn ôl John Pierce Jones, roedd cymeriad Wali Tomos mor boblogaidd ymhlith y gynulleidfa am fod yna Wali Tomos ym mhob pentref.

“Dyna peth arall roeddan nhw’n ei wybod, Ffred a fo,” meddai.

“Roedd o’n nabod eu cynulleidfa fel cefn ei law, peth prin iawn, iawn yn y byd darlledu Cymraeg.

“Ar thema Wali, mi oedd gynnoch chi wahanol agweddau lle’r oedd rhywun yn deud, ‘O ie, hwnna ydi hwnna‘.

“Mae sawl un wedi deud wrtha i pwy ydi’u cymeriadau nhw. ‘Dw i’n gwybod pwy ydi’ch cymeriad chi yn C’mon Midffîld, hwn a hwn‘.

“Ac mae hynna’n digwydd o’r de i’r gogledd hefyd, trwy’r genedl.”

 

Yr actor a’r sgriptiwr Mei Jones wedi marw

“Mi wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i’r byd adloniant Cymraeg,” medd ei gyd-awdur Alun Ffred Jones