Mae disgwyl i biano a gafodd ei defnyddio gan Queen a The Alarm ac a gafodd ei storio mewn stiwdio a oedd unwaith yn gapel, gael ei gwerthu mewn ocsiwn am hyd at £20,000 fis nesaf.

Mae lle i gredu bod y biano Kawai EP 308 wedi cael ei defnyddio wrth i Queen recordio’r albwm The Works, sy’n cynnwys y gân Hammer To Fall.

Cafodd ei phrynu gan The Alarm, band y Cymro Mike Peters, yn 1985 ar ôl iddo gyfarfod â Freddie Mercury, canwr Queen.

Cafodd The Alarm ei ffurfio yn y Rhyl yn 1981 a chawson nhw nifer o ganeuon poblogaidd yn y 1980au, gan gynnwys Sixty-Eight Guns a Spirit Of ‘76.

Fe wnaethon nhw gefnogi Queen am ddwy noson yn stadiwm Wembley ar The Magic Tour yn 1986, sef taith olaf Queen gyda Freddie Mercury a’r basydd John Deacon, ac mae lle i gredu bod mwy na miliwn o bobol wedi mynd i un o’r 26 gig ar y daith.

Bu’r ddau fand yn perfformio yng Ngŵyl Pop Montreux yn y Swistir yn 1984 pan aeth aelod o Queen at Mike Peters a dweud bod Freddie Mercury yn dymuno cyfarfod ag e.

“Roedd Freddie yn ostyngedig iawn ac mi ddywedodd wrtha i ei fod o’n ffan enfawr o albwm The Alarm,” meddai Peters.

“Mi ofynnodd o lawer o gwestiynau i mi am ei recordio.

“Yna, mi roddodd o gerdyn i mi efo’i rif a dweud wrtha i am ei ffonio fo tasai o’n medru helpu mewn unrhyw ffordd.”

Arweiniodd hynny at brynu’r biano gan Queen am oddeutu £3,000 ac aeth aelod o griw The Alarm i gartref Roger Taylor, drymiwr Queen, i’w chasglu.

Ar ôl teithio gyda The Alarm am dair blynedd, aeth y biano adref gyda Mike Peters a chafodd ei storio yn ei stiwdio.

Ar ôl i The Alarm chwalu yn 1991, fe wnaethon nhw ailffurfio yn 2004 ac maen nhw’n perfformio hyd heddiw.

Hud y biano

“Mae gan y biano ryw fath o hud yn perthyn iddi yn sicr,” meddai Mike Peters.

“Hoffwn iddi fynd i rywun sy’n cael yr un wefr ag y gwnaethon ni.

“Mae’n ben-blwydd ar The Alarm yn 40 oed eleni. Mae’n gyfle gwych i adnewyddu popeth rydan ni’n ei wneud.

“Mae peth o’n hoffer wedi dyddio ac mae angen i ni ailfeddiannu rhywfaint o le.”

Bydd yr ocsiwn yn Wiltshire ar Ragfyr 8.