Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan ac Aelod Seneddol Torfaen, yn galw am ymchwiliad swyddogol yn dilyn honiadau yn erbyn Stanley Johnson, tad y prif weinidog Boris, o aflonyddu rhywiol.

Daw hyn ar ôl i’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Caroline Nokes, gyhuddo Stanley Johnson o smacio ei phen ôl yng nghynhadledd y blaid yn 2003, wrth iddo ystyried ymgeisio i fod yn Aelod Seneddol Torïaidd yn 2005.

Daeth cyhuddiad arall gan y newyddiadurwraig Ailbhe Rea, a ddywedodd fod y cyn-Aelod o Senedd Ewrop wedi ei chyffwrdd yn amhriodol yng nghynhadledd y blaid yn 2019.

Mae Johnson, sy’n 81 oed, wedi gwrthod ymateb i’r honiadau, heblaw am y ffaith nad oes ganddo fo “ddim atgof o gwbl o Caroline Nokes”, tra bod Downing Street hefyd wedi gwrthod rhoi ymateb i’r cyhuddiadau yn erbyn yr “unigolyn preifat”.

Dydy’r Blaid Geidwadol chwaith heb nodi a fydd ymchwiliad yn cael ei lansio.

‘Mae gen ti sedd hyfryd’

Yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Blackpool yn 2003, roedd Caroline Nokes wedi ei dewis fel ymgeisydd etholaeth Romsey ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2005, tra bod Stanley Johnson yn ymgeisydd i sedd Teignbridge yn Ne Ddyfnaint.

“Rwy’n gallu cofio dyn amlwg iawn yn taro fy mhen ôl mor galed ag y gallai,” meddai Nokes wrth Sky News.

“Wrth wneud hynny, dywedodd wrthyf: ‘Hei, Romsey, mae gen ti sedd hyfryd’.

“Fe wnaeth Stanley Johnson hynny i fi cyn etholiad 2005, felly [y gynhadledd] yn Blackpool oedd hi… Yn 2003/4.

“Wnes i ddim byd bryd hynny, ac rwy’n teimlo cywilydd.

“Byddwn i fwy na thebyg wedi dweud rhywbeth nawr.”

Galw am ymchwiliad

Mae Nick Thomas-Symonds yn ymbil ar y Torïaid i lansio ymchwiliad i’r mater.

“Yn amlwg, mae angen i’r Blaid Geidwadol ymchwilio i honiad difrifol fel hyn, a ddigwyddodd yn eu cynhadledd,” meddai wrth Times Radio.

“Mae Caroline Nokes yn un o’r Aelodau Seneddol mwyaf blaenllaw – hi yw cadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb.

“Ond p’un ai’n aelod blaenllaw o San Steffan neu yn unrhyw un a fynychodd y gynhadledd honno, mae angen inni wrando ar y dioddefwr.

“Mae’n rhaid trin yr honiad o ddifrif ac yn sensitif.”