Mae cwmni a ddechreuodd fasnachu wythnos ar ôl dechrau’r pandemig Covid-19 wedi bachu gwobr glodwiw am saig Coreaidd draddodiadol sy’n cael ei gwneud yng Nghymru.

Derbyniodd ‘Jones – Trust Your Gut’ o Sir Fynwy y Wobr Cynnyrch Newydd Mwyaf Cyffrous yn ystod gwobrau BlasCymru 2021, am eu kimchi Cymreig.

Saig Coreaidd yw kimchi, sy’n cael ei wneud drwy eplesu bresych â tsilis a bara lawr, ac mae ganddo lawer o fuddion iechyd, yn enwedig i’r system dreulio.

Daeth y cynnyrch i’r brig yn y seremoni, a gafodd ei chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd eleni.

Roedd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn bresennol, gydag ychydig gannoedd o gynhyrchion newydd yn cael eu harddangos a’u blasu.

Roedd ‘Jones – Trust Your Gut’ yn ymddangos yn y digwyddiad am y tro cyntaf erioed fel rhan o’r arddangosfa ‘Sêr Yfory’.

Sefydlu ar hap

Cafodd y cwmni ei sefydlu ar hap yn dilyn parti lle’r oedd y sylfaenwyr, Anna Jones a Malcolm Burns, yn bresennol.

Roedd gan y ddau brofiad eisoes o weithio yn y diwydiant bwyd a diod, ac wrth gyfuno’r profiad hwnnw â’u hangerdd am fwyd sy’n llesol i’r coluddion, fe wnaethon nhw greu ystod o fwydydd eples dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hynny’n cynnwys colslo, seidr afalau, kraut organig, a’r kimchi Cymreig.

Roedd y cwmni eisoes wedi cipio dwy wobr un seren yng ngwobrau Great Taste eleni, sy’n gwobrwyo bwyd a diod ledled y byd.

Addasu

Dywed Anna Jones, ei bod hi’n brofiad “hyfryd a diymffrost” i dderbyn y wobr mor fuan ar ôl dechrau’r cwmni.

“Rydym wedi gweithio mor galed ar ein menter, ac felly mae’n wych cael cadarnhad ein bod ar y trywydd cywir,” meddai.

“Bu rhaid i ni addasu ein cynllun busnes yn llwyr, a oedd wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar gyfarfod pobol.

“Nid oedd modd i ni weld ein gilydd ychwaith, felly roedd rhaid cynnal ein cyfarfodydd â’n partneriaid busnes ar-lein a gwneud penderfyniadau rhithiol.

“Roedd hi’n rhyfedd iawn lansio busnes felly. Cafodd ffiniau’r hyn sy’n bosibl eu rhoi dan brawf, ond os allwch chi weithio felly, gallwch weithio yn unrhyw le.”

Cefnogaeth

“Mae’r cymorth yr ydym wedi’i gael ar hyd y daith wedi bod yn anhygoel,” meddai Anna Jones wedyn.

“Mae’r gefnogaeth yng Nghymru i frandiau bwyd a busnesau heb ei hail.

“Rydym wedi cael cymaint o gymorth, gan gynnwys cymorth gyda gweithgynhyrchu, cyllid a mentora.

“Mae cymaint o sefydliadau yng Nghymru i helpu pobol a’ch cefnogi chi ar hyd y daith – mae’n rhoi opsiynau i bobol sydd â’u bryd ar ddechrau arni yn y diwydiant bwyd.

“Mae’r ystod o gyngor wedi bod yn rhyfeddol; does dim rhoi pris ar hynny.”