Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ailadrodd eu galwadau am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Gwrthododd Mark Drakeford gynnal ymchwiliad ar gyfer Cymru eto, er gwaethaf galwadau gan Aelod Seneddol Llafur.

Dywedodd Chris Evans, yr Aelod Seneddol Llafur dros Islwyn yn San Steffan, “fod rhaid cael rhyw fath o ymchwiliad… mae yna dros 7,000 o bobol wedi marw”.

“Mae hyn yn ymwneud â theuluoedd sy’n galaru sydd wedi colli anwyliaid, ac sydd â chwestiynau sydd angen cael eu hateb,” meddai ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

“Dw i ddim yn meddwl bod hwn yn fater gwleidyddol, mae’n fater moesol.”

Yn sgil y sylwadau, gofynnodd Paul Davies, arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, i Mark Drakeford yn y Senedd a fyddai Llywodraeth Cymru nawr yn cefnogi ymchwiliad ar gyfer Cymru, ac yn sicrhau bod pobol Cymru’n cael yr atebion maen nhw’n eu haeddu.

“Rydyn ni angen ymchwiliad Covid ar gyfer Cymru gyfan, ymchwiliad sy’n mynd uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol ac yn rhoi’r atebion sydd eu hangen ar bobol,” meddai.

“Mae’r Aelod Seneddol dros Islwyn, Chris Evans, yn hollol iawn yn amlinellu na all datganoli pwerau olygu bod Llywodraeth Cymru yn osgoi cyfrifoldebau, a dw i’n annog pob Aelod yn y Siambr hon, o bob plaid, i roi gwleidyddiaeth i’r naill ochr a chefnogi ymchwiliad Covid Cymru gyfan.”

‘Yr unig ffordd’

Galwodd Paul Davies ar Mark Drakeford i ddweud na fydd yn cyflwyno pasys Covid ar gyfer y sector lletygarwch, a gofynnodd i Lywodraeth Cymru egluro be’ sy’n rhaid digwydd o ran y sefyllfa iechyd cyhoeddus er mwyn cael gwared ar y pasys.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at Boris Johnson eto yr wythnos ddiwethaf, gan nodi’r hyn mae Llywodraeth Cymru am ei weld drwy’r ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

“Byddaf yn cyfarfod yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am hynny yr wythnos hon,” meddai Mark Drakeford.

“Byddaf yn cyfarfod teuluoedd eto ddechrau mis Rhagfyr.

“Dw i’n dal yn credu mai’r ffordd orau iddyn nhw gael yr atebion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw, ac yn eu haeddu, yw drwy ddilyn ymchwiliad sy’n edrych ar y profiad yma yng Nghymru, ond yn gwneud hynny o fewn y cyd-destun gafodd y penderfyniadau hynny eu gwneud.

“Dyna’r unig ffordd, dw i’n credu, y bydden nhw’n cael y math o atebion y maen nhw’n chwilio amdanyn nhw.”

Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru, yna bydd rhaid ailfeddwl, meddai Mark Drakeford wedyn.

‘Sgandal genedlaethol’

Wrth ymateb tu allan i’r siambr, dywedodd Paul Davies fod y Prif Weinidog wedi “mynnu bod penderfyniadau ar gyfer Cymru’n cael eu gwneud yng Nghymru” drwy gydol y pandemig.

“O’r gohirio i brofi mewn cartrefi henoed a gwisgo mygydau i gyflwyno pasbortau Covid yn ddiweddar, mae Llafur wedi penderfynu gwneud pethau’n wahanol,” meddai.

“Yn anffodus, Cymru sydd â’r gyfradd marwolaethau uchaf o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, a bu farw un ym mhob pedwar ar ôl dal yr haint mewn ysbytai. Mae’n sgandal genedlaethol sydd angen ei ymchwilio’n fanwl.

“Mae teuluoedd sy’n galaru’n haeddu atebion, a gall y rheiny ond gael eu cyflenwi drwy graffu’n llawn, ac yn annibynnol, ar y penderfyniadau gafodd eu gwneud gan weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd mewn ymchwiliad coronafeirws penodol ar gyfer Cymru.

“Fydd dim byd arall yn ddigonol, a gallwn ni ond gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gwrando ar alwadau rhai o’i gydweithwyr Llafur yn San Steffan.”