Does gan Lywodraeth Cymru ddim “cynlluniau brys” i ehangu pasys Covid i fwytai neu dafarndai.

Daw hyn yn dilyn sylwadau’r Ysgrifennydd Cyllid Rebecca Evans cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu hadolygiad o gyfyngiadau Covid-19 ddydd Iau (Tachwedd 18).

Mae’r Llywodraeth wedi awgrymu y gallai ymwelwyr â busnesau lletygarwch gyflwyno pasys Covid pe bai’r gyfradd heintio’n dringo.

Mae rhai yn y sector yn pryderu am yr effaith y gallai’r mesur ei chael.

Pasys Covid

Cafodd pasys Covid, sy’n cael eu defnyddio i brofi a yw rhywun wedi cael eu brechu neu wedi eu profi’n negyddol am Covid yn y 48 awr ddiwethaf, eu hymestyn i sinemâu a theatrau ddoe (dydd Llun, Tachwedd 15).

Roedden nhw eisoes yn ofynnol ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod cyfraddau achosion Cymru’n dringo eto wedi iddyn nhw ddisgyn o’u huchafbwynt ym mis Hydref.

Mae’r gyfradd heintio ar hyn o bryd yn sefyll ar 488.93 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth (Tachwedd 11)

475.9 oedd y gyfradd ar Dachwedd 7.

Mae’n dal yn is na’r gyfradd achosion wythnos yn ôl, sef 526.16.

Trafodaethau

“Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar unwaith i gyflwyno’r pasys Covid hynny’n ehangach nag ydynt ar hyn o bryd,” meddai Rebecca Evans yn ystod cynhadledd i’r wasg.

“Mae trafodaethau’n parhau gyda’r sector lletygarwch yn ehangach am yr hyn y gallwn fod yn ei wneud i sicrhau bod pobol yn ddiogel yn yr amgylcheddau hynny.”

Wrth ymateb i gwestiynau am ddyfodol y cyfyngiadau yng Nghymru, dywedodd nad oedd am ragfynegi’r adolygiad nesaf ymhen tair wythnos.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Tachwedd 16), dywedodd Mark Drakeford nad oedd Cymru “allan o’r coed” wrth i’r gyfradd heintio gynyddu eto.

Mater i fusnesau yw penderfynu a ydyn nhw’n sganio neu’n gweld y tocynnau â llaw, sy’n cynnwys cod QR a dyddiad dod i ben.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gall busnesau benderfynu os ydyn nhw am sganio’r pasys yn ddigidol neu â llaw, fel rhan o’u hasesiad risg Covid eu hunain.

Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Cadi Dafydd

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau i gyflwyno’r fath raglen”