Dyma ddiweddariad dydd Llun o gyfraddau achosion Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Dachwedd 11, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn prawf labordy neu brawf llif ochrol cyflym, erbyn dyddiad penodol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Cynnydd yng Ngwynedd

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 12-15) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Bro Morgannwg sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (640.8, i lawr o 744.3 yn y saith diwrnod hyd at 4 Tachwedd), a Gwynedd sydd uchaf ond un (599.2, i fyny o 468.2 3 yn y saith diwrnod hyd at 4 Tachwedd).

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr yn llawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 11; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 11; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 4; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 4.

Bro Morgannwg, 640.8, (867), 744.3, (1007)

Gwynedd, 599.2, (750), 468.2, (586)

Torfaen, 581.0, (551), 716.0, (679)

Caerdydd, 556.1, (2053), 591.0, (2182)

Castell-nedd Port Talbot, 548.5, (792), 592.9, (856)

Sir Gaerfyrddin, 531.4, (1010), 486.7, (925)

Sir Fynwy, 529.6, (504), 507.5, (483)

Powys, 524.7, (698), 523.9, (697)

Abertawe, 509.0, (1255), 528.1, (1302)

Blaenau Gwent, 502.7, (352), 597.0, (418)

Wrecsam, 491.0, (668), 402.8, (548)

Merthyr Tudful, 489.9, (296), 470.0, (284)

Caerffili, 484.8, (881), 658.7, (1197)

Pen-y-bont ar Ogwr, 480.6, (709), 523.3, (772)

Casnewydd, 477.5, (747), 538.2, (842)

Sir Ddinbych, 463.5, (448), 455.2, (440)

Rhondda Cynon Taf, 401.9, (972), 422.5, (1022)

Sir Benfro, 400.0, (507), 542.0, (687)

Sir y Fflint, 364.0, (571), 427.8, (671)

Conwy, 327.5, (387), 380.8, (450)

Ceredigion, 285.3, (208), 439.0, (320)

Ynys Môn, 271.2, (191), 357.8, (252)