Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa gymorth gwerth £51 miliwn i helpu’r teuluoedd mwyaf difreintiedig.

Daw hyn yn sgil costau cynyddol am fwyd a thanwydd, a chan fod llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd talu biliau oherwydd y pandemig.

Mae Banc Lloegr hefyd wedi rhybuddio y bydd chwyddiant yn cynyddu i 5% erbyn y gwanwyn, sydd am waethygu’r argyfwng.

Bydd cam cyntaf y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn rhoi arian i aelwydydd incwm is er mwyn iddyn nhw allu talu biliau ynni.

Byddan nhw hefyd yn darparu arian ychwanegol i gynnal banciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol yn ystod y gaeaf.

Trefniadau

Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi dweud y bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £100 ar gyfer biliau ynni.

Dywedodd hi hefyd y byddan nhw’n ehangu eu menter Bocs Bwyd Mawr i 25 ysgol arall, er mwyn darparu bwyd fforddiadwy i blant ysgol a theuluoedd.

“Rydym yn poeni’n fawr y bydd yr argyfwng costau byw, sy’n digwydd mor agos at y Nadolig, yn gorfodi teuluoedd i droi at fenthycwyr cost uchel neu fenthycwyr arian didrwydded anghyfreithlon i helpu i gael dau ben llinyn ynghyd,” meddai Jane Hutt.

“Bydd y gronfa hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r dewisiadau amgen a all fod o help.

“Mae’r rhan fwyaf o’r pwerau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd drwy’r gaeaf hwn.

“Byddwn yn eich cefnogi chi, eich teuluoedd, eich busnesau a’ch cymuned drwy’r cyfnod digynsail hwn.”