Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn, sy’n cael ei amau o fod yn frawychwr, a fu farw ar ôl iddo ffrwydro dyfais roedd wedi’i gwneud, mewn tacsi y tu allan i ysbyty yn Lerpwl.

Bu farw Emad Al Swealmeen, 32 oed, ar ôl i’r bom ffrwydro toc tu allan i’r ysbyty ar gyfer menywod a babis, cyn 11yb ar Sul y Cofio.

Roedd y gyrrwr y tacsi, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel David Perry, wedi goroesi’r ffrwydrad ac mae bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae pedwar dyn gafodd eu harestio o dan y ddeddf frawychiaeth yn ardal Kensington yn Lerpwl bellach wedi cael eu rhyddhau ar ôl cael eu cyfweld gan yr heddlu. Cafodd tri o’r dynion 21, 26 a 29 oed eu harestio ddydd Sul (14 Tachwedd), a dyn 20 oed ei arestio ddydd Llun (15 Tachwedd).

Yn ôl adroddiadau roedd  Emad Al Swealmeen wedi symud i’r Deyrnas Unedig o’r Dwyrain Canol rai blynyddoedd yn ôl ac wedi dod yn Gristion.

Mae’r heddlu chwilio eiddo mewn dau leoliad sydd â chysylltiad â Emad Al Swealmeen ac yn dweud eu bod wedi gwneud “cynnydd sylweddol” yn yr ymchwiliad ac wedi dod o hyd i “dystiolaeth bwysig”.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol ac mae MI5 yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.