Mae’r Ceidwadwyr wedi dod o dan y lach unwaith eto ar ôl i un o’u Haelodau Seneddol rwystro cynnig i gael gwared ar y diwygiadau safonau dadleuol.

Daeth y diwygiadau hynny ar ôl i’r blaid amddiffyn un o’u haelodau, Owen Paterson, wedi cyhuddiadau o dorri rheolau lobïo.

Roedd y cynnig, a gafodd ei drafod yn San Steffan ddoe (dydd Llun, Tachwedd 15), yn trafod a ddylid dileu’r diwygiadau i safonau arweiniodd at y ffrae ynghylch llygredd.

Fe wnaeth Christopher Chope weiddi ei wrthwynebiad o feinciau’r Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl i’r cynnig godi yn ystod y bleidlais, gan olygu nad oedd modd i’r cynnig gael ei gytuno arno bryd hynny.

Mae disgwyl i’r mater gael ei drafod unwaith eto yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 16).

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson eisoes wedi cydnabod fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud camgymeriadau yn eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Safonau i ymddygiad Owen Paterson.

Mae barn y cyhoedd am y Ceidwadwyr wedi gwaethygu ers yr helynt, yn ôl polau piniwn.

Gwelliant Leadsom

Yn benodol, roedd y cynnig a gafodd ei wrthod yn crybwyll gwyrdroi gwelliant Leadsom, oedd yn ceisio adolygu’r broses o ymchwilio i safonau aelodau seneddol.

Cafodd y gwelliant ei gyflwyno gan arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, i’w drafod.

Roedd y cynnig hefyd yn gyfle i’r Ceidwadwyr gymeradwyo gwaharddiad Owen Paterson am dorri rheolau lobïo.

Cyn iddo gamu i lawr fel aelod, roedd awgrym gan y pwyllgor safonau y dylai Paterson gael ei wahardd am 30 diwrnod.

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Pete Wishart, fod ymgais i ddod â’r mater i ben nos Lun wedi diweddu mewn “diflastod a methiant.”

“Aeth hynny i gyd o’i le pan wnaeth Christopher Chope godi ei lais i wrthwynebu,” meddai.

Honnodd Wishart fod prif chwip y Llywodraeth, Mark Spencer, wedi “llygadruthu” ar Chope ar ôl gwneud hynny.

Fe ategodd arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin, Thangam Debbonaire, fod y Ceidwadwyr wedi “methu â chlirio eu llanast eu hunain.”

Ymddiheuriad

Yn gynharach yn y dydd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 15), fe ymddiheurodd yr Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng i’r Comisiynydd Safonau Kathryn Stone ar ôl iddo drafod ei dyfodol yn gyhoeddus.

Ymchwiliad Stone wnaeth ganfod fod Owen Paterson wedi torri cod ymddygiad Tŷ’r Cyffredin, ar ôl canfod ei fod wedi lobïo swyddogion a gweinidogion ar ran dau gwmni a oedd yn ei dalu £100,000 y flwyddyn.

Kwasi Kwarteng
Kwasi Kwarteng

“Doeddwn i ddim yn bwriadu mynegi amheuaeth ynghylch eich gallu i gyflawni eich rôl ac rwy’n ymddiheuro am unrhyw ofid neu drallod y gallai fy newisiad o eiriau fod wedi’i achosi,” meddai Kwasi Kwarteng mewn llythyr at Kathryn Stone.

“Rwy’n cydnabod ei bod yn ddyletswydd ar weinidogion i gadw at safonau uchel y cod gweinidogol, gan gynnwys sicrhau bod ein geiriau’n cael eu dewis yn ofalus a’n bod yn trin eraill gydag ystyriaeth a pharch.

“Rwy’n gresynu felly bod y geiriau a ddefnyddiais y tro hwn wedi rhoi’r argraff fy mod wedi methu â chyrraedd y safonau uchel hyn.”

Owen Paterson: Pleidlais i beidio ei wahardd am dorri rheolau lobïo honedig

Yn lle hynny, Senedd San Steffan yn pleidleisio o blaid diwygio system safonau Tŷ’r Cyffredin