Mae mwy o weithwyr yn cael eu cyflogi gan gwmnïau yng Nghymru nag ers dechrau’r pandemig.

YN ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae nifer y gweithwyr sy’n cael eu cyflogi wedi codi o 0.6% rhwng mis Medi a Hydref i 29.3 miliwn ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’n debyg fod hynny “ymhell uwchlaw” y niferoedd cyn y pandemig.

Roedd y gyfradd diweithdra wedi gostwng o 4.1% yn Ebrill-Mehefin 2021, i 3.8% yng Ngorffennaf-Medi 2021, er bod y cynllun ffyrlo wedi parhau tan ddiwedd mis Medi.

Mae’r ONS yn dweud fod dim ond nifer fach o ddiswyddiadau wedi eu gwneud ymysg yr 1.1 miliwn a oedd yn derbyn ffyrlo pan ddaeth y cynllun i ben.

Yng Nghymru roedd nifer y diwaith wedi gostwng i 3.8% rhwng mis Gorffennaf a Medi, sy’n is na chyfradd y Deyrnas Unedig o 4.3%.

Ymateb y Canghellor

Fe gyfeiriodd y Canghellor Rishi Sunak at y ffigyrau diweddaraf, gan ddweud eu bod nhw’n “dangos llwyddiant aruthrol y cynllun ffyrlo.”

“Rydyn ni’n gwybod pa mor hanfodol yw cadw pobol mewn swyddi da,” meddai.

“Mae hynny’n bwysig iddyn nhw ac i’r economi ar yr un pryd.

“Dyna pam mae’n wych gweld y gyfradd diweithdra yn disgyn am naw mis yn olynol, a record yn niferoedd y bobol sy’n symud i mewn i gyflogaeth.”

Swyddi gwag

Ar y llaw arall, fe ddangosodd y data fod nifer y swyddi gwag wedi cyrraedd ei nifer uchaf erioed, gan godi i 1.17 miliwn yn y tri mis hyd at fis Hydref.

Roedd hynny 338,000 yn uwch na’r niferoedd cyn y pandemig, wrth i gwmnïau geisio ymateb i brinder cynyddol mewn gweithwyr.

“Efallai y bydd yn cymryd ychydig fisoedd i weld effaith lawn y ffyrlo yn dod i ben, oherwydd y gallai pobl a gollodd eu swyddi ddiwedd mis Medi fod yn derbyn tâl diswyddo o hyd,” meddai Sam Beckett, pennaeth ystadegau economaidd yr ONS.

“Fodd bynnag, mae amcangyfrif cynnar ym mis Hydref yn dangos bod nifer y bobl ar y gyflogres wedi cynyddu’n gryf ac yn sefyll ymhell uwchlaw y gyfradd cyn y pandemig.

“Nid oes unrhyw arwydd chwaith o gynnydd mewn diswyddiadau ac mae busnesau’n dweud wrthym ni mai dim ond cyfran fach iawn o’u staff sydd wedi cael eu diswyddo.”

Mae’r farchnad swyddi bellach wedi gwella i lefelau cyn y pandemig Covid-19, gyda’r cynllun ffyrlo’n lleihau’r ergyd i weithwyr.