Fe fydd y cyn-Aelodau o’r Senedd Leanne Wood a Kirsty Williams yn rhan o’r comisiwn fydd yn edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Fe gyhoeddwyd fis diwethaf y bydd yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams yn arwain y Comisiwn Cyfansoddiadol.
Heddiw (dydd Mawrth, 16 Tachwedd), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r naw enw fydd yn gweithio efo’r cyd-gadeiryddion, gyda chymysgedd o wleidyddion, academyddion, a chynghorwyr.
Bwriad y comisiwn yw datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig lle mae Cymru’n parhau i fod yn berthnasol.
Byddan nhw hefyd yn ystyried yr holl opsiynau ar gyfer cryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Bydd y comisiwn yn cael ei gefnogi gan banel arbenigol, a fydd yn cynnig arbenigedd mewn meysydd yn cynnwys llywodraethu, y gyfraith, y cyfansoddiad, yr amgylchedd, economeg, a chyllid.
Mae cyfarfod cyntaf y Comisiwn Cyfansoddiadol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 25 Tachwedd.
Aelodau’r Comisiwn
- Dr Anwen Elias – Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Miguela Gonzalez – Ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant a chyn-newyddiadurwr
- Michael Marmot – Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Chyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd UCL
- Lauren McEvatt – cyn-gynghorydd arbennig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Swyddfa Cymru
- Albert Owen – cyn Aelod Seneddol Llafur dros Ynys Môn o 2001 i 2019
- Philip Rycroft – cyn-was sifil gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Prydain
- Shavanah Taj – Ysgrifennydd Cyffredinol BME cyntaf TUC Cymru
- Kirsty Williams – cyn Aelod o’r Senedd i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru
- Leanne Wood – cyn Aelod o’r Senedd a chyn Arweinydd Plaid Cymru
Amrywiaeth
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: “Mae pob comisiynydd yn cynnig cryfderau, gwybodaeth, profiad a safbwyntiau gwahanol.
“Maen nhw’n dod o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig, a thu hwnt ac o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.
“Gyda’i gilydd, mae’r comisiynwyr yn cyfuno’r manylder academaidd a’r safbwyntiau amgen y bydd ar y comisiwn eu hangen i feddwl yn greadigol a radical am ddyfodol Cymru.
“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â’r comisiwn ac ymuno â’r sgwrs genedlaethol am ein dyfodol cyfansoddiadol.”
‘Llais cryf ac effeithiol’
“Gyda’r Alban yn debygol o bennu ei dyfodol ei hun yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae hwn yn gyfle i bobol yng Nghymru gael y sgwrs fwyaf am ein dyfodol fel cenedl a gawsom erioed,” meddai Leanne Wood yn dilyn ei phenodiad.
“Rwy’n falch o fod yn chwarae rhan fach yn hyn ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â phobol yng Nghymru – gan sicrhau bod dyfodol Cymru yn parhau’n gadarn yn nwylo Cymru.”
Mae Adam Price, arweinydd presennol Plaid Cymru, wedi talu teyrnged i Leanne Wood wrth iddi dderbyn yr enwebiad i’r comisiwn.
“Hoffwn estyn fy niolch i Leanne Wood am dderbyn ei henwebiad i’r Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru,” meddai.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn llais cryf ac effeithiol ar ran y mudiad annibyniaeth ehangach.
“Bydd ei phŵer i ymgysylltu â phobol ledled Cymru ac ar draws cenedlaethau yn gaffaeliad enfawr i’r Comisiwn wrth iddo geisio cael y sgwrs genedlaethol ehangaf bosibl ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.”