Fe fydd cwest yn cael ei agor heddiw (16 Tachwedd) i farwolaethau pedwar padlfyrddiwr yn Sir Benfro fis diwethaf.

Fe fu farw Paul O’Dwyer, o Bort Talbot, Morgan Rogers, o Ferthyr Tudful, Nicola Wheatley, o Abertawe, ac Andrea Powell o Ben-y-bont ar Ogwr mewn digwyddiad ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ar 30 Hydref.

Bu farw dwy fenyw ac un dyn yn y digwyddiad a bu farw menyw arall yn yr ysbyty yn ddiweddarach.  Cafodd pump arall o’r un grŵp eu hachub yn ddianaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod yr afon yn llifo’n uchel ac yn gyflym ar ôl glaw trwm.

Fe fydd y cwest yn cael ei gynnal yn Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.