Mae naw tŷ amgylcheddol gyfeillgar yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd ar gyfer y teuluoedd sydd ar dop rhestr aros cyngor y ddinas.

Mae’r eco-gartrefi yn cael eu hadeiladu ar ardal tir brown ar Stryd Croft ym Mhlasnewydd fel rhan o ymgyrch gan yr awdurdod lleol i greu cannoedd o dai fforddiadwy dros y degawd nesaf.

Dechreuodd y tai cynaliadwy, parod gael eu gosod mewn lle ddoe (15 Tachwedd).

Bydden nhw’n barod i bobol sy’n aros am dai yng Nghaerdydd o fewn pum wythnos, ac mae disgwyl i’r tenantiaid cyntaf symud mewn cyn y Nadolig.

Mae’r tai wedi’u hadeiladu yn Swydd Nottingham, ac wedi cael eu creu i fod yn garbon sero-net a 90% mwy ynni effeithlon na thai arferol, meddai’r datblygwyr Wates Residential.

Mae’r tai wedi’u creu i fod wedi’u hinsiwleiddio yn dda, a dylai’r preswylwyr weld bod eu biliau dipyn is.

Dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o adeiladu gael ei gyflawni gan yr awdurdod lleol.

“Blaenoriaeth”

Dywedodd pennaeth tai Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Lynda Thorne: “Dw i wrth fy modd bod y tenantiaid newydd cyntaf a fydd yn rhan o’r datblygiad am fod yn byw yno cyn y Nadolig, a’u bod nhw’n cael dechrau mwynhau byw yn eu tai Cartrefi Caerdydd newydd mor fuan.

“Mae cynyddu argaeledd tai fforddiadwy i bobol yng Nghaerdydd yn flaenoriaeth uchel i’r cyngor, ond rydyn ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y tai newydd rydyn ni’n eu cyflenwi’n eiddo o ansawdd da, ac mae’r ffaith eu bod nhw mor ‘wyrdd’ â phosib yn gallu dod â buddion i’n tenantiaid gan leihau tlodi tanwydd, a buddio ein poblogaeth ehangach, oherwydd dyna’r peth iawn, cynaliadwy i’w wneud.”

“Gwella’r amgylchedd”

Mae’r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Wates i adeiladu 1,500 tŷ newydd dros 40 lleoliad yn y ddinas dros y 40 mlynedd nesaf.

Bydd y rhain yn cynnwys tai fforddiadwy i’w gwerthu a’u rhentu, llety â chefnogaeth, a chartrefi mwy hygyrch a hyblyg i bobol hŷn.

Mae Wates Group yn gweithio gyda chymdeithasau tai a chynghorau yn Llundain a de’r Deyrnas Unedig er mwyn datblygu cymunedau cynaliadwy.

Dywedodd cyfarwyddwr rhanbarthol y grŵp, Edward Rees, ei bod hi’n “anhygoel” gweld y darn o dir diddefnydd hwn yn cael ei “drawsnewid yn dai fforddiadwy”.

“Rydyn ni wedi ymroi i gael gwared ar wastraff a charbon o’n gwaith erbyn 2025, dipyn cynharach na thargedau amgylcheddol y Llywodraeth eu hunain, ac rydyn ni’n gweithio gyda chwsmeriaid, y gadwyn gyflenwi, a phartneriaid er mwyn dod o hyd i ffyrdd gwell a mwy arloesol i leihau gwastraff, lleihau defnydd ynni, a gwella’r amgylchedd naturiol.”