Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru unwaith eto i fynd i’r afael â dyledion sydd wedi adeiladu yn ystod y pandemig.
Daw hyn ar ôl i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru gyhoeddi adroddiad sy’n nodi bod mwy o bobol yn mynd i ddyled yng Nghymru, a bod y nifer hwnnw’n debygol o gynyddu yn y dyfodol agos.
Mae’r pwyllgor yn honni mai talu biliau a threth cyngor, yn ogystal â’r cynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd sydd wedi achosi’r dyledion hyn
Roedden nhw’n cynnig awgrymiadau i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad ar sut i leihau’r niferoedd hyn, ac un ohonyn nhw oedd ystyried cyflwyno ‘coelcerthi dyledion’.
Fe ymddangosodd y cysyniad hwnnw ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiadau’r Senedd eleni, ac mae’n galw ar y Llywodraeth i dalu’r unigolion mwyaf difreintiedig allan o’u dyledion.
Mae nifer o gyrff fel Sefydliad Bevan wedi cefnogi’r polisi, gan ddadlau y byddai’n cynyddu symudedd cymdeithasol yng Nghymru.
Galwad
Yn yr etholiad, fe addawodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw’n rhoi £200,000 tuag at ganslo dyledion sydd wedi adeiladu yn ystod y pandemig.
Mae eu harweinydd, Jane Dodds, yn bryderus bod y cynnydd yn y dyfodol agos yn debygol o wthio pobol i sefyllfaoedd “peryglus a gofidus”.
“Rwy’n falch iawn bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gallu defnyddio ein dylanwad i sicrhau ymchwil i’r maes hanfodol hwn,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod bod dyled yn effeithio’n anghyfartal ar Gymru o’i chymharu â’r Deyrnas Unedig gyfan.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod fod dyled yn effeithio’n anghyfartal ar fenywod, pobol ifanc, rhentwyr, pobol ag anableddau a phobol o liw.
“Mae coelcerth dyledion yn bolisi rhyddfrydol a radical a allai ryddhau pobol rhag effeithiau annheg, afreolaidd dyled a rhoi bywyd newydd i bobol.
“Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi ymchwil ar y polisi fis Mehefin nesaf.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.