Cafodd pysgotwr ei achub gan y bad achub ar ôl treulio bron i awr yn y môr ger Porthcawl ddoe (22 Tachwedd).
Roedd y dyn wedi bod yn gweithio ar ei gwch, pan ddisgynnodd mewn i’r môr oherwydd “rhaff ddiffygiol”, meddai Bad Achub y Mwmbwls.
Disgynnodd y dyn pan oedd ar fin rhoi ei siaced achub a’i ddillad dal dŵr amdano, ond llwyddodd i afael mewn bwi a galw am help gyda’i ffôn symudol, a oedd yn dal dŵr.
Cafodd y Bad Achub a hofrennydd gwylwyr y glannau eu galw i’r digwyddiad tua 1:15 brynhawn ddoe.
Fe wnaeth yr hofrennydd ei weld yn y môr, a chafodd ei dynnu allan o’r dŵr gan griwiau gwirfoddol y Bad Achub.
Derbyniodd driniaeth gan barafeddyg, a chafodd ei gludo i orsaf bad achub y Mwmbwls yn Abertawe.
“Dyn lwcus iawn”
Hon oedd galwad gyntaf llywiwr y bad achub, Josh Stewart, a ddywedodd: “Roedd y pysgotwr wedi paratoi’n dda iawn ar gyfer bod yn ddiogel ar y môr.
“Roedd e’n cario golau personol i’w leoli yn ei siaced achub, ond yn anffodus cafodd ei dynnu dros yr ochr wrth ei rhoi amdano.
“Eto, fe wnaeth ei benderfyniad sydyn i gario ffôn symudol sy’n dal dŵr achub ei fywyd, yn sicr.
“Roedd injan ei gwch dal yn rhedeg, a daeth i’r lan ym Mhorthcawl.
“Roedd e wedi bod yn y dŵr am bron i awr pan wnaethon ni ei dynnu allan.
“Roedd tymheredd ei gorff yn isel iawn pan ddaeth atom ni, ac roedd e’n crynu’n sylweddol.
“Mae e’n ddyn lwcus iawn.”