Fe fydd Boris Johnson a Syr Keir Starmer ymhlith y gwleidyddion mewn gwasanaeth er cof am Syr David Amess yn Eglwys Gadeiriol Westminster heddiw (23 Tachwedd).

Cafodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Southend West ei ladd yn ei etholaeth mewn eglwys yn Leigh-on-Sea ar 15 Hydref.

Yn ystod y gwasanaeth yn Llundain fe fydd neges gan y Pab yn cael ei ddarllen. Daw’r gwasanaeth yn dilyn angladd preifat yn Southend ddydd Llun (22 Tachwedd) lle’r oedd cannoedd o bobl wedi casglu ar strydoedd y dref i roi teyrnged i David Amess.

Fe fydd y Prif Weinidog a’r arweinydd Llafur yn talu teyrnged i’r tad i bump o blant yn y gwasanaeth heddiw.

Mae Ali Harbi Ali, 25, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio David Amess ac o baratoi gweithredoedd brawychol rhwng 1 Mai 2019 a 28 Medi eleni.

Mae disgwyl iddo gyflwyno ple ym mis Rhagfyr.