Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid newid cynllun gofal cymdeithasol Lloegr, er bod nifer o Aelodau Torïaidd wedi gwrthwynebu.

Fe wnaeth nifer o Aelodau Seneddol Torïaidd bleidleisio yn erbyn polisi newydd Boris Johnson i osod cap ar gostau gofal yn Lloegr neithiwr (22 Tachwedd), ond cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Roedd y rhai oedd yn gwrthwynebu yn rhybuddio y bydd y newid yn taro’r pensiynwyr tlotaf.

Fe wnaeth gweinidogion fethu â dweud a fyddai’r cap o £86,000 ar gostau gofal yn golygu eu bod nhw’n gallu cadw at eu haddewid na fyddai unrhyw un yn gorfod gwerthu eu cartrefi i dalu am ofal.

Ond er y gwrthwynebiad, roedd ASau wedi pleidleisio o blaid y cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin, o 272 pleidlais i 246.

Fe wnaeth 19 Aelod Seneddol Ceidwadol bleidleisio yn erbyn, ac roedd 68 Aelod Ceidwadol wedi atal eu pleidlais.

Roedd Boris Johnson wedi amddiffyn y cynlluniau gan ddweud eu bod nhw’n “eithriadol o hael” ac “yn llawer gwell na’r system bresennol”.

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai’r cap o £86,000 ar gostau gofal gydol oes yn cael ei gyflwyno fis Hydref 2023.

Fodd bynnag, dangosodd bapur polisi’r wythnos ddiwethaf fod cyfraniadau personol am gyfri tuag at y cap ar gyfer pobol sy’n derbyn cymorth ariannol gan awdurdod lleol tuag at rywfaint o’u gofal.

Yn ôl arbenigwyr, bydd unigolion tlotach yn cyrraedd y cap yn gyflymach na rhai cyfoethocach, a bydd mwy o’u harian yn mynd tuag at gostau gofal.

“Cam yn ôl”

Roedd maniffesto’r Blaid Geidwadol ar gyfer etholiad Rhagfyr 2019 yn dweud y bydd diwygiadau i ofal cymdeithasol yn “sicrhau na fydd neb sydd angen gofal yn gorfod gwerthu eu cartref er mwyn talu amdano”.

Mae llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wedi methu â sicrhau hynny, gan ddweud: “Ni allaf ragweld sefyllfaoedd unigol”.

Dywedodd Sally Warren, cyfarwyddwr polisi gyda’r felin drafod iechyd King’s Fund, bod y newidiadau wedi dod yn sydyn “gydag ychydig iawn o rybudd a dim asesiad effaith ar gael” i Aelodau Seneddol.

“Mae’r newid yn y cap gofal cymdeithasol yn gam yn ôl a fydd yn gadael pobol â lefelau isel o gyfoeth yn agored i gostau gofal uchel iawn,” meddai.

“Mae’n debygol o olygu y bydd rhai pobol gydag asedau canolig sy’n byw mewn ardaloedd tlotach yn gorfod gwerthu eu tai er mwyn talu am ofal, tra bod pobol gyfoethocach mewn rhannau mwy cyfoethog o’r wlad yn cael eu hamddiffyn rhag hyn.”

O dan y cynlluniau, ni fydd rhaid i bobol ag asedau gwerth llai na £20,000 gyfrannu dim tuag at ofal – cynnydd o’r cap presennol o £14,250.

Bydd pobol gydag asedau hyd at £100,000 yn gymwys i dderbyn peth cefnogaeth gan awdurdodau lleol.

Bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle arall i drafod y Bil Iechyd a Gofal diwygiedig heddiw (23 Tachwedd), cyn y mae disgwyl i Dŷ’r Arglwyddi graffu arno.