Mae o leiaf 45 o bobl wedi marw mewn damwain bws yng ngorllewin Bwlgaria, meddai’r awdurdodau yno.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 2yb ddydd Mawrth (23 Tachwedd) ac mae plant ymhlith y meirw, yn ôl yr awdurdodau.

Cafodd saith o bobl eu cludo i’r ysbyty am driniaeth. Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y ddamwain ond mae’n ymddangos bod y bws wedi taro rheiliau ac wedi mynd ar dân.

Roedd y bws wedi’i gofrestru yng Ngogledd Macedonia. Dywed swyddogion y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Yn ôl asiantaeth newyddion Bwlgaria, Novinite, mae cynrychiolwyr o lysgennad Macedonia wedi ymweld â’r ysbyty lle cafodd rhai o’r bobl eu cludo.

Mae’r Prif Weinidog dros dro Stefan Yanev hefyd wedi ymweld â safle’r ddamwain a dywedodd wrth newyddiadurwyr ei fod yn “drasiedi enfawr”.