Bydd £45m yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu yn dilyn y pandemig a Brexit, a gyda golwg ar ddiogelu’r hinsawdd.
Cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, y pecyn cyllid heddiw (23 Tachwedd), a bydd arian yn mynd tuag at gefnogi miloedd o bobol i hyfforddi i weithio mewn “sectorau allweddol” hefyd.
Fel rhan o’r pecyn, bydd £35m yn helpu busnesau bach a chanolig i ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio, a thyfu er mwyn helpu adferiad economaidd Cymru.
Bydd y cyllid yn cefnogi mwy na 1,000 o fusnesau, yn helpu i greu 2,000 swydd newydd, ac yn diogelu 4,000 swydd arall.
Prinder gweithwyr
Ar y cyd â’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, bydd £10m arall yn mynd tuag at Gyfrifon Dysgu Personol Cymru.
Bydd hyn yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol, a fydd yn helpu 2,000 o bobol i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd ar gyfer swyddi mewn sectorau pwysig sy’n wynebu prinder gweithwyr.
Fe fydd y cyllid yn cael ei dargedu at ail-gysylltu gyda, ac ail-hyfforddi, staff i ddychwelyd i’r gwaith yn y Gwasanaeth Iechyd, ac ym maes gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, bydd yn anelu tuag at hyfforddi mwy o yrwyr lorïau HGV, ailsgilio unigolion i ymateb i gyfleoedd gwaith newydd mewn adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, a sicrhau mwy o gogyddion, a staff gweini i weithio yn y sector lletygarwch.
Yn ôl gweinidogion, bydd y pecyn yn gefnogaeth i’r economi dros fisoedd y gaeaf.
“Dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus”
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Vaughan Gething yn ystod ymweliad ag Advance Energy Services yn Cross Keys, cwmni ffitio boeleri, inswleiddio, a phympiau gwres sy’n canolbwyntio ar wneud adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni, i nodi dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething: “Mae’r pecyn £45m rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddarparu ar adeg dyngedfennol yn ein hadferiad economaidd. Mae’n rhoi cyfle i roi hwb i’r economi a thyfu wrth i ni ganolbwyntio ar greu dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus i Gymru.
“Bydd y cyllid yn cynnig cyfle i fusnesau sydd angen ail-fuddsoddi – yn enwedig yn dilyn effaith pandemig y Coronafeirws, ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, a chyda golwg ar ddiogelu’r hinsawdd a rhag Covid – y cyfle i wneud hynny, er mwyn ail-lansio, datblygu a thyfu.
“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adeiladu Cymru gydag economi ffyniannus, deg, werdd, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl.”
Meysydd dan bwysau
Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad pellach mewn Cyfrifon Dysgu Personol, ychwanegodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles ei fod yn “falch” o sicrhau bod £10m ychwanegol yn mynd tuag at “roi hwb i’n menter cyfrifon dysgu personol”.
“Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi cyfle i bobl ennill y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i weld cynnydd yn eu gyrfa,” meddai Jeremy Miles.
“Rwy’n falch ein bod wedi sicrhau £10m ychwanegol i roi hwb i’r fenter hon.
“Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ailhyfforddi a chynyddu eu potensial i ennill cyflog mewn meysydd o’r economi y gwyddom sydd dan bwysau eithafol – gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddiant i yrwyr HGV, lletygarwch ac adeiladu gwyrdd.”
Mae’r £35m o gyllid i fusnesau bach a chanolig yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, ac mae busnesau’n cael eu gwahodd i nodi ffyrdd y bydd buddsoddiad yn eu helpu i ail-lansio eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd arloesol, a chreu swyddi.
Mae’n fwriad i’r arian gefnogi busnesau i fynd i’r afael â rhai o’r prif faterion sy’n wynebu Cymru, meddai’r Llywodraeth – megis bylchau mewn sgiliau mewn rhai sectorau, uwchsgilio’r gweithlu, sicrhau gwaith teg i weithwyr, a gweithredu ar newid hinsawdd.
Fel rhan o hynny, mae Gweinidogion yn chwilio am gynigion a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged allyriadau di-garbon net erbyn 2050.