Mae adroddiad newydd yn nodi bod angen i gynlluniau newydd yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru fod “yn wyrddach, yn gliriach, ac angen eu rheoli’n fwy tynn.”

Mae’r rhaglen gan y Llywodraeth yn ceisio sicrhau fod tanwydd yn fforddiadwy i aelwydydd ledled Cymru, ac mae wedi sicrhau fod dros 16,000 o gartrefi yn derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim rhwng 2018 a 2021.

Fodd bynnag, mae’r cynlluniau presennol sy’n rhan o’r rhaglen yn dod i ben dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae’r Llywodraeth yn ceisio llunio cynlluniau newydd i gymryd eu lle nhw.

Bydd cynllun mesur effeithlonrwydd ynni Nyth yn dod i ben yn 2023, tra bod y cynllun arall – Arbed – eisoes wedi dod i ben.

Yng Nghymru, mae’n debyg bod 155,000 o aelwydydd yn dlawd o ran tanwydd, gyda 144,000 o aelwydydd eraill mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd yn y dyfodol.

Adroddiad Archwilio Cymru

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, 23 Tachwedd) gan Archwilio Cymru, yn nodi bod angen i unrhyw gynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru fod yn wyrddach i geisio cyrraedd uchelgeisiau sero-net.

Mae’n debyg fod 98% o’r systemau gwresogi a gafodd eu gosod gan gynllun Arbed, a 95% o’r rheiny sydd wedi eu gosod gan Nest, yn defnyddio tanwydd ffosil, sydd wedi ysgogi’r alwad am dechnoleg wyrddach.

Hefyd, mae’r adroddiad yn nodi bod cynllun Arbed wedi tangyflawni wrth dargedu aelwydydd incwm isel a chartrefi aneffeithlon o ran ynni, gyda £7.5 miliwn o gyllid grant Undeb Ewropeaidd ddim yn cael ei ddefnyddio, yn bennaf oherwydd Covid-19.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o’r ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ymhlith rhai o’n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed.

“Wrth i ni nesáu at fisoedd oer y gaeaf, mae’r ymchwydd diweddar mewn prisiau ynni yn pwysleisio pwysigrwydd cymorth o’r fath.

“Bydd angen i gynlluniau’r dyfodol fod yn wyrddach, yn gliriach, a bydd angen eu rheoli’n fwy tynn.

“Yr her fawr sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yw sut y bydd yn cydbwyso ei huchelgeisiau o ran newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi hefyd yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd sydd fwyaf agored i niwed, sydd wedi dibynnu ar wresogi nwy llai costus i gynhesu eu cartrefi yn draddodiadol, ond sy’n allyrru lefelau uwch o garbon.”

Ymateb

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd: “Mae’r rhaglen Cartrefi Clyd wedi helpu llawer o aelwydydd i wella pa mor effeithlon yw eu cartrefi o ran ynni.

“Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, fodd bynnag, yn nodi’n glir iawn yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol wrth iddi ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Gyda phrisiau ynni ar gynnydd, bydd llawer o bobl yng Nghymru yn teimlo’r esgid yn gwasgu’r gaeaf hwn.

“Mae’n bryder arbennig, felly, gweld bod y cynllun Arbed wedi tangyflawni yn erbyn ei dargedau am resymau sy’n amlwg yn ymestyn y tu hwnt i effaith y pandemig COVID-19, a bod £7.5 miliwn o ddyraniad cyllid gwreiddiol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynllun heb ei wario.

“Rwyf hefyd yn bryderus bod y cynllun bellach wedi dod i ben ac nad oes dim i lenwi’r bwlch a adawyd ar unwaith.

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried yr adroddiad ar 1 Rhagfyr, ac mae’n disgwyl gweld ymrwymiad clir i wella’r ffordd y mae cynlluniau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio a’u cyflawni, drwy ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.”