Dyma ddiweddariad dydd Llun am gyfraddau Covid-19 pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Dachwedd 18, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn profion labordai neu brofion llif ochrol cyflym, a hynny erbyn dyddiad penodol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 19-22) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Gwynedd

Gwynedd sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru o hyd – yn wir, mae ganddi hefyd y gyfradd uchaf-ond-un yn y Deyrnas Unedig – i fyny o 604.0 i 878.0, gyda 1,099 o achosion newydd.

Dyna hefyd y cynnydd mwyaf o wythnos i wythnos yng Nghymru – a’r trydydd uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 18; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 18; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 11; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 11.

Gwynedd, 878.0, (1099), 604.0, (756)

Bro Morgannwg, 666.7, (902), 643.0, (870)

Sir Fynwy, 577.9, (550), 531.7, (506)

Wrecsam, 572.6, (779), 492.4, (670)

Sir Benfro, 547.5, (694), 400.8, (508)

Merthyr Tudful, 532.9, (322), 493.2, (298)

Torfaen, 513.5, (487), 582.1, (552)

Powys, 511.2, (680), 525.4, (699)

Caerdydd, 501.4, (1851), 557.4, (2058)

Sir Gaerfyrddin, 498.2, (947), 534.5, (1016)

Abertawe, 487.5, (1202), 511.0, (1260)

Caerffili, 482.0, (876), 486.4, (884)

Castell-nedd Port Talbot, 479.3, (692), 548.5, (792)

Sir Ddinbych, 475.9, (460), 466.6, (451)

Sir y Fflint, 474.3, (744), 364.7, (572)

Casnewydd, 466.0, (729), 477.5, (747)

Rhondda Cynon Taf, 464.7, (1124), 403.1, (975)

Blaenau Gwent, 448.4, (314), 505.6, (354)

Pen-y-bont ar Ogwr, 435.8, (643), 482.6, (712)

Ynys Môn, 423.1, (298), 274.0, (193)

Conwy, 373.1, (441), 327.5, (387)

Ceredigion, 255.2, (186), 290.8, (212)