Mae elusen Cymdeithas y Coedwigoedd Bach wedi sicrhau £1.5m o gyllid i gyflawni prosiect sy’n gwella iechyd a lles ledled Cymru.
Byddan nhw’n gwneud hyn drwy ddarparu cyfleoedd i bobol gymryd rhan mewn rhaglenni awyr agored sy’n seiliedig ar natur.
Cafodd Cymdeithas y Coedwigoedd Bach, sydd â phencadlys yn Swydd Amwythig a’i chanolfan Gymreig ym Machynlleth, ei sefydlu ym 1988 fel y sefydliad cenedlaethol ar gyfer coedwigodd bach.
Mae’n rheoli prosiectau coedwigaeth gymdeithasol, yn ogystal â hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o goedwigoedd bach er budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae Coed Lleol (Coed Bach Cymru) wedi bod yn cynnal gweithgareddau iechyd a lles drwy’r rhaglen Coed Actif Cymru ers 2010.
Bydd yr arian yn eu galluogi i ddatblygu mannau gwyrdd a chanolfannau arloesol, a fydd yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion cymunedau lleol, gweithgarwch cymunedol, hyfforddiant a datblygu sgiliau, gwella’r amgylchedd lleol a’i ddiogelu.
‘Amhrisiadwy’
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn – bydd yn amhrisiadwy o ran cefnogi, datblygu a gwella’r gwaith pwysig rydym eisoes yn ei gyflawni ledled Cymru,” meddai Katy Harris, Rheolwr Cyllid a Chyfathrebu Coed Bach Cymru.
“Mae gweithgareddau iechyd a lles yn yr awyr agored yn profi’n fwy llwyddiannus byth o ran cefnogi pobol i oresgyn heriau salwch sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw fel gordewdra a diffyg ymarfer corff; a gwella eu lles meddyliol ac emosiynol.
“Mae’r cyfle i ryngweithio â natur mewn lleoliad coetir yn brofiad gwirioneddol fuddiol ac yn rhywbeth y mae nifer cynyddol o bobol yn sylweddoli y gall gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.”