Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi argymell codi’r premiwm treth gyngor ar berchnogion ail gartrefi.

Fe bleidleisiodd y pwyllgor yn unfrydol i godi’r premiwm o 35% i 50% y flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o’i godi i 100% erbyn 2024.

Mae’r pwyllgor hefyd yn galw ar y Cyngor i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i reoli nifer yr ail gartrefi ar yr ynys, yn ogystal â newid y ddeddfwriaeth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniadau treth addas.

Daeth yr argymhelliad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, a gafodd dros 1,000 o ymatebion – y mwyafrif ohonyn nhw o blaid codi’r premiwm.

Er hynny, roedd 45% o berchnogion ail gartrefi yn nodi y bydden nhw’n cofrestru eu heiddo fel rhai annomestig pe bai’r premiwm yn codi i osgoi gorfod ei dalu.

Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 43% o dai Rhosneigr yn wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn

Premiwm

Cafodd y premiwm presennol ei gyflwyno yn 2017, wrth i Gyngor Ynys Môn ddod yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gyflwyno premiwm o’r fath.

Byddai codi’r premiwm i 50% yn dod â £500,000 ychwanegol i’r awdurdod lleol yn ôl amcangyfrifon, a gafodd eu nodi mewn adroddiad i’r pwyllgor gwaith.

Adroddiad

Roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn cynnwys ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

“Roedd yn amlwg bod gan gyfran sylweddol o’r ymatebwyr farn oedd naill ochr i’r pegwn,” noda’r adroddiad.

“Roedd thrigolion lleol yn mynegi’r farn bod nifer uchel yr ail gartrefi ar yr Ynys yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a’r Gymraeg ac y dylid codi’r premiwm i’r eithaf.

“Ar y llaw arall, roedd perchnogion ail gartrefi wedi nodi eu bod yn dod â manteision i’r economi lleol ac nad ail gartrefi oedd y rheswm bod problemau ynghylch prisiau tai uwch a phobl leol yn methu fforddio prynu tai ac nad oedd hyn yn unigryw i Ynys Môn.

“Yn eu barn nhw, ni fyddai cynyddu’r premiwm yn datrys y broblem ac na fyddai’r broblem yn cael ei datrys heb wella’r economi a chynyddu cyflogau cyfartalog gweithwyr ar Ynys Môn.”

Bydd y Cyngor llawn yn trafod y mater ymhellach yn ystod y misoedd nesaf, a’n penderfynu a ydyn nhw o blaid yr argymhelliad.

Cyngor Ynys Môn i drafod codi premiwm ar ail gartrefi

Gareth Williams, Gohebydd Democratiaeth Leol a Rhiannon James, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’r premiwm presennol ar ail gartrefi ym Môn yn 35%, ond mae bwriad i’w godi i 100% erbyn 2024