Mae pwyllgor gwaith Cyngor Ynys Môn ar fin gwneud penderfyniad ar gynyddu’r premiwm treth cyngor ar gyfer ail gartrefi.

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn gofyn iddyn nhw godi’r premiwm o 35% i 50% erbyn y flwyddyn nesaf, a’i godi ymhellach i 100% erbyn 2024.

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, a gafodd dros 1,000 o ymatebion, a’r mwyafrif ohonyn nhw yn teimlo bod y premiwm presennol yn rhy isel.

Cafodd y premiwm hwnnw ei gyflwyno yn 2017, wrth i Gyngor Ynys Môn ddod yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gyflwyno premiwm o’r fath.

Mae’n debyg bod 7% o holl dai’r ynys yn wag am ran fwyaf o’r flwyddyn, gydag ymgyrchwyr yn credu ei fod mor uchel â 70% mewn rhai pentrefi arfordirol.

Byddai codi’r premiwm i 50% yn dod â £500,000 ychwanegol i’r awdurdod lleol yn ôl amcangyfrifon.

Bylchau

Er hynny, roedd 45% o berchnogion ail gartrefi yn nodi yn yr ymgynghoriad y byddan nhw’n elwa ar “fwlch” yn rheolau Llywodraeth Cymru er mwyn osgoi talu premiwm uwch.

Byddai’r perchnogion hynny yn cofrestru eu heiddo fel rhai annomestig pe bai’r premiwm yn codi.

Mae hynny wedi ysgogi Cyngor Ynys Môn i alw ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau fel nad oes modd osgoi talu trethi cyngor uwch.

Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 43% o dai Rhosneigr yn wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Adroddiad

Nododd yr adroddiad fod gan “gyfran sylweddol o’r ymatebwyr farn gyferbyniol”.

“Mynegodd trigolion lleol y farn bod y nifer uchel o ail gartrefi ar yr Ynys yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a’r Gymraeg ac y dylid codi’r premiwm i’r eithaf,” meddai.

“Nododd perchnogion ail gartref eu bod nhw’n dod â buddion i’r economi leol ac nad oedd ail gartrefi yn achosi prisiau tai uwch, nag effeithio ar allu pobl leol i fforddio prynu tai.

“Fe wnaethon nhw fynegi’r farn na fyddai cynyddu’r premiwm yn datrys y broblem ac na fyddai’r broblem yn cael ei datrys heb wella’r economi a chynyddu cyflogau cyfartalog gweithwyr ar Ynys Môn.”

Bydd penderfyniad i’w ddisgwyl pan fydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ddydd Llun (Hydref 25).

Galwadau yng Nghaerffili

Mae John Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili, hefyd wedi gwneud galwadau i ddyblu’r dreth cyngor ar gyfer ail gartrefi yn y sir honno.

Nododd y gallai’r arian sy’n cael ei godi o drethi uwch – tua £350,000 y flwyddyn mae’n debyg – gael ei wario ar brosiectau bach mewn cymunedau lleol.

Mae 234 o ail gartrefi yn Sir Caerffili ar hyn o bryd, gyda 36 yn nhref Caerffili.

Mae 36 o ail gartrefi yn nhref Caerffili.

Bydd John Roberts yn crybwyll y syniad yng nghyfarfod nesaf grŵp Plaid Cymru’r Cyngor – gyda bwriad i godi’r mater mewn cynnig swyddogol yn y dyfodol.

Dywedodd ei fod yn “gobeithio y byddai cynghorwyr o’r holl bleidiau yn cefnogi hyn”.

 

Sir Benfro yn dyblu’r dreth ar ail gartrefi

Cynghorwyr Sir Benfro yn dilyn esiampl cynghorwyr Gwynedd ac Abertawe

Cynyddu premiwm treth ar ail gartrefi o 50% i 100% yng Ngwynedd

O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm ar ail gartrefi nid oedd yr un ohonynt cyn hyn yn codi mwy na 50%